<p>Cyfleusterau Meddygfeydd (Gogledd Cymru)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig mewn rhannau o Gymru wledig. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pob bwrdd iechyd yn ystyried y model cywir ar gyfer ei ardal. Nawr, rwy'n ymwybodol ac rwyf wedi gweld enghreifftiau fy hun o sut y mae hyn yn gweithredu'n dda. Ni ddylem, wrth gwrs, ddefnyddio hynny fel rheswm i beidio â sicrhau y gall pobl fynd adref gyda'r gefnogaeth iawn cyn gynted â phosibl, ond mae'r model y mae’r Aelod yn sôn amdano eisoes yn bodoli mewn sawl rhan o Gymru.