1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)[W]
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer o gyfleusterau gofal sylfaenol newydd wedi cael eu hagor ar draws y gogledd. Wrth gwrs, maen nhw’n darparu adeiladau o’r safon uchaf i feddygon teulu.
Mae yna sefyllfa argyfyngus yn bodoli yn fy etholaeth i, sef ym meddygfa Waunfawr, a hoffwn dynnu’ch sylw at y problemau dybryd sydd yn fanno a gofyn i chi ymyrryd, gan fod y mater yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd erbyn hyn.
Mae’r feddygfa yn rhoi gofal gwych i dros 5,000 o gleifion, ond mae’r adeilad yn hollol anaddas—nid oes digon o le, mae cyfrinachedd a diogelwch cleifion dan fygythiad ac nid oes modd i’r practis gymryd myfyrwyr meddygol nac ehangu gwasanaethau. Ddeng mlynedd yn ôl, fe ddywedodd y bwrdd iechyd fod gwella meddygfa Waunfawr yn flaenoriaeth, ond nid yw’r cyfleusterau wedi gwella. A ydych chi’n credu bod y llusgo traed yma yn dderbyniol, ac oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, a wnewch chi ymyrryd er mwyn symud pethau ymlaen ar frys?
Mae’r Aelod yn iawn ynglŷn â’r sefyllfa yna yn y Waunfawr—mae yna bwysau mawr yna. Rwy’n deall bod y feddygfa ei hunan yn trafod y peth yn fanwl iawn â’r bwrdd iechyd. Mae’n rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy’n bosib—rwy’n deall hynny. Wrth gwrs, byddai’n rhaid cael cais o’r feddygfa yn gyntaf, ond i wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid trafod y peth â’r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod y cais yn un iawn. Ond rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn deall y sefyllfa a’n deall bod yn rhaid sicrhau mwy o le i’r feddygfa yn y pen draw. Rwy’n deall taw siop oedd y feddygfa ar un adeg a bod 5,000 o bobl yn cael eu gwasanaethu oddi yno nawr—1,000 ar y dechrau—felly mae’n amlwg bod yn rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy’n bosib.
Ar ôl colli dwsinau o welyau cymunedol yn y gogledd er gwaethaf lefelau defnydd gwelyau o 95 y cant neu uwch, dywedodd staff y GIG yn y gogledd wrthyf y byddai gwelyau cymunedol newydd yn cymryd pwysau oddi ar ysbytai cyffredinol ac yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddefnyddio ei adnoddau yn fwy effeithlon. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'r datganiad gan ymarferwyr cyffredinol yn nigwyddiad Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn y Cynulliad bythefnos yn ôl bod gwelyau cymunedol yn ychwanegu at yr amrywiaeth o bethau y gall ymarferydd cyffredinol ei wneud, a bod gofal lleol mewn uned ymarferydd cyffredinol mewn ysbytai cymunedol, sy’n eu galluogi i ryddhau pobl i fynd adref wedyn, yn atal yr angen i roi pobl mewn ysbytai cyffredinol ac yn cynorthwyo gofal eilaidd a sylfaenol?
Mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig mewn rhannau o Gymru wledig. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pob bwrdd iechyd yn ystyried y model cywir ar gyfer ei ardal. Nawr, rwy'n ymwybodol ac rwyf wedi gweld enghreifftiau fy hun o sut y mae hyn yn gweithredu'n dda. Ni ddylem, wrth gwrs, ddefnyddio hynny fel rheswm i beidio â sicrhau y gall pobl fynd adref gyda'r gefnogaeth iawn cyn gynted â phosibl, ond mae'r model y mae’r Aelod yn sôn amdano eisoes yn bodoli mewn sawl rhan o Gymru.