Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Nid wyf yn gwybod pa un a yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwerth £0.25 miliwn o doriadau i'r gyllideb llyfrgelloedd rhwng nawr a 2019, a fydd yn golygu torri hanner costau cynnal lleol y gwasanaeth llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o gau 11 o lyfrgelloedd cangen. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i resynu’r synnwyr hwn o flaenoriaethau, oherwydd does bosib na ddylem ystyried llyfrgelloedd fel rhan hanfodol bwysig o wasanaeth addysg ehangach y wlad hon?