1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0092(FM)
Byddwn yn darparu mwy na £600,000 o arian grant i gynorthwyo’r gwaith o foderneiddio tair llyfrgell yn y canolbarth a’r gorllewin yn 2016-17.
Nid wyf yn gwybod pa un a yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwerth £0.25 miliwn o doriadau i'r gyllideb llyfrgelloedd rhwng nawr a 2019, a fydd yn golygu torri hanner costau cynnal lleol y gwasanaeth llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o gau 11 o lyfrgelloedd cangen. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i resynu’r synnwyr hwn o flaenoriaethau, oherwydd does bosib na ddylem ystyried llyfrgelloedd fel rhan hanfodol bwysig o wasanaeth addysg ehangach y wlad hon?
Mater, wrth gwrs, i awdurdodau lleol yw sut y maen nhw’n trefnu eu gwasanaethau llyfrgell, er fy mod i’n ymwybodol mai un o'r llyfrgelloedd a fydd yn derbyn arian yw llyfrgell ardal Aberhonddu er mwyn ei moderneiddio, ond mater i awdurdodau lleol yw penderfynu sut i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd.
Brif Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae gwasanaethau llyfrgell yn ased cymunedol gwerthfawr, gymaint felly fel bod cymunedau lleol yn Arberth, a hefyd yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro, yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i gadw llyfrgelloedd ar agor fel adnodd a reolir gan y gymuned yn wyneb toriadau cyni cyllidol y Torïaid. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i’r gwirfoddolwyr hynny am eu hymdrechion i gefnogi cadw’r llyfrgelloedd hynny ar agor ac, yn benodol, i ddiolch iddyn nhw yn yr ardaloedd gwledig hynny sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw?
Gwnaf, mi wnaf ymuno â'r Aelod i ddiolch i'r bobl hynny. Rwyf wedi gweld enghraifft ohono fy hun yn Llansawel, lle mae gwirfoddolwyr yn rhedeg y llyfrgell erbyn hyn, a gwn fod y gwasanaeth llyfrgelloedd yn—. Wel, un o'r straeon a adroddwyd i mi yno yw bod pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio'r llyfrgell nawr—roedd rhai pobl yn meddwl bod y llyfrgell wedi cau flynyddoedd yn ôl. Ac mae'n hynod o bwysig, felly, bod gwirfoddolwyr yn gallu, nid yn unig i sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i redeg, ond hefyd i sicrhau bod gwybodaeth am y llyfrgell yn fwy cyffredin yn y gymuned.
Brif Weinidog, yn ystod yr wythnos yr ydym ni’n coffau canmlwyddiant brwydr y Somme, mae'n hanfodol ein bod yn dathlu'r rhan bwysig y mae gwasanaethau archifau sirol yn ei chwarae, yn enwedig o ran helpu cenhedlaeth heddiw i gadw cysylltiad â'u gorffennol. Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod archif Caerfyrddin wrthi’n cael ei hadfer ar hyn o bryd, ar ôl cael ei difrodi'n ddifrifol oherwydd ei lleoliad gwael mewn adeilad anaddas a ganiataodd i ddogfennau gwerthfawr gael eu gorchuddio â llwydni a phob math o bethau anffodus eraill yn digwydd. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r gwaith adfer hwn ar yr archif ddiwylliannol bwysig hon yng Nghymru, ac a wnewch chi amlinellu beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i helpu llyfrgelloedd eraill, archifau gwerthfawr eraill yng Nghymru, i gael eu hadfer a'u cadw ar gyfer dyfodol y genedl?
Wel, gallaf ddweud bod yr enghraifft y mae’r Aelod yn ei rhoi wedi cael ei helpu gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac enghraifft arall y gallaf ei chynnig yw adleoli'r archifau rhent yng Nglynebwy mewn adeilad newydd sbon, adnodd hynod o bwysig, ac adnodd sy'n arbennig o hygyrch—rhan, wrth gwrs, o ailddatblygu safle’r hen waith dur.