Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, bydd cap ar fudd-dal tai ar gyfraddau lwfans tai lleol yn berthnasol o fis Ebrill 2018 ond dim ond i denantiaethau a lofnodwyd ar ôl Ebrill 2016. Bwriedir y diwygiad hwn yn well i gyfochri'r rheolau yn y sectorau rhent preifat a chymdeithasol, ond bydd yn arwain at ddarpar denantiaid yn cael rhagor o broblemau o ran fforddiadwyedd os ydynt yn derbyn budd-daliadau neu eu bod angen cymorth lles yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn frwd iawn amdano ar hyn o bryd. Yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth y DU, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parhad y ddarpariaeth honno o dai â chymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?