<p>Datblygiadau Tai Cymdeithasol</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0086(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n parhau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, a fydd yn elfen bwysig o'n targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn, ac rydym ni’n cynorthwyo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai er mwyn cyrraedd y targed hwnnw.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:59, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna yn gyntaf oll? Rwy’n credu ym mhwysigrwydd tai cymdeithasol; mae gen i lawer o’m hetholwyr ar y rhestr aros am dŷ cyngor ar hyn o bryd. Hoffwn bwysleisio hefyd pwysigrwydd terfynu'r hawl i brynu fel y gall cynghorau adeiladu eto heb ofni y bydd y tai hynny’n cael eu gwerthu’n gyflym iawn, iawn. A ellir rhoi rhywfaint o'r cyllid a roddir i gymdeithasau tai ar hyn o bryd i adeiladu cartrefi newydd, i gynghorau i gynorthwyo’r gwaith o adeiladu tai cyngor?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n awyddus i atal hyn rhag cael ei ystyried fel cystadleuaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Mae’r ddau’n hanfodol i gyrraedd ein targed newydd. Rydym ni eisiau gweld, wrth gwrs, mwy o uchelgais gan awdurdodau lleol pan ddaw i adeiladu tai. Mae'n anodd, oherwydd yr ataliwyd awdurdodau lleol rhag adeiladu tai am gymaint o flynyddoedd. Ond rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu cynllun cyflawni.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, bydd cap ar fudd-dal tai ar gyfraddau lwfans tai lleol yn berthnasol o fis Ebrill 2018 ond dim ond i denantiaethau a lofnodwyd ar ôl Ebrill 2016. Bwriedir y diwygiad hwn yn well i gyfochri'r rheolau yn y sectorau rhent preifat a chymdeithasol, ond bydd yn arwain at ddarpar denantiaid yn cael rhagor o broblemau o ran fforddiadwyedd os ydynt yn derbyn budd-daliadau neu eu bod angen cymorth lles yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn frwd iawn amdano ar hyn o bryd. Yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth y DU, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parhad y ddarpariaeth honno o dai â chymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym ni eisiau sicrhau, wrth gwrs, nad yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn dioddef o ganlyniad i benderfyniadau a wneir mewn mannau eraill. Gwn fod y Gweinidog yn edrych yn ofalus ar y sefyllfa bresennol er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, er ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o dai yng Nghymru, nid yw fy etholwyr mewn cymunedau fel Penllergaer, Pontarddulais a Gorseinon wedi eu darbwyllo bod cynllun datblygu lleol drafft y Cyngor yn adlewyrchu'r angen am ddarpariaeth o'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adlewyrchu anghenion pobl yn ystod adegau gwahanol yn eu bywydau. Felly, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf, wrth adeiladu tai cyngor, y bydd awdurdodau lleol wedi eu rhwymo yn yr un ffordd ag unrhyw ddatblygwr i roi sylw dyledus cryf i bryderon trigolion lleol am leoliadau? Ac, yn ail, beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd i helpu cynghorau edrych ymlaen at ddarparu mwy o gartrefi i bobl hŷn pan fyddant yn cynllunio i adeiladu tai cyngor yn y dyfodol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd cynghorau, wrth gwrs, yn cynllunio yn ôl y newid demograffig. Rydym ni’n gwybod, yn hanesyddol—ers degawdau lawer—bod tai’n cael eu hadeiladu ar y sail eu bod yn mynd i gartrefu teuluoedd. Rydym ni’n gwybod mwy a mwy o bobl yn gynyddol sydd ar eu pennau eu hunain. Maen nhw wedi cael eu taro'n galed gan y dreth ystafell wely, yn enwedig yng Nghymru wledig, lle mae’n anodd dod o hyd i lety un ystafell wely y tu allan i drefi. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs mae cynghorau wedi eu rhwymo i’w cynlluniau datblygu lleol eu hunain ac mae’n rhaid iddyn nhw gadw at y cynllun hwnnw, yn union fel y byddai unrhyw ddatblygwr arall yn gorfod ei wneud.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:02, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf, llwyddais i dynnu sylw at adroddiad gan Brifysgol Sheffield Hallam, a nododd effaith niweidiol anghyfartal toriadau i fudd-daliadau lles y Llywodraeth Dorïaidd ar gymunedau tlotach, gan gyfeirio'n benodol at gyfyngu’r budd-dal tai lleol i’r gyfradd tai lleol. Cynnig arall o dan y trefniadau newydd yw codi'r trothwy y telir ar y gyfradd llety a rennir oddi tano—h.y. dyna'r gyfradd isaf—o 25 mlwydd oed i 35 mlwydd oed, gan ei gwneud yn anoddach i bob pwrpas, os nad yn amhosibl, i bobl iau allu fforddio tai cymdeithasol. A gaf i annog y Prif Weinidog, mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, i rybuddio yn erbyn y newid hwn, sydd eisoes yn arwain at rai cyrff tai cymdeithasol yng Nghymru i gwestiynu a allant barhau i ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer y grŵp oedran hwnnw?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhan o thema lle, yr ieuengaf yr ydych chi, y mwyaf y mae’n rhaid i chi ei dalu. Os daw i fudd-dal tai, os daw i fynediad at dai, os yw'n golygu cael eich troed ar yr ysgol forgais, ni fu amser anoddach erioed. Fe’i cefais yn rhwydd yn fy nghenhedlaeth i, fel y gwnaeth fy rhieni, ond mae'n llawer, llawer anoddach i bobl ifanc erbyn hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud pwynt bod angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc i gael i mewn i lety. Mae hynny’n golygu peidio â gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran. Rydym ni’n ei weld yn yr un modd gyda'r isafswm cyflog. Does bosib os bydd rhywun yn gwneud gwaith, y dylai gael ei dalu ar yr un gyfradd beth bynnag fo’i oed.