Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rydym ni’n trafod yn rheolaidd â chwmnïau angori a chafodd yr Ysgrifennydd dros yr economi gyfarfod ag Airbus ddydd Gwener diwethaf. Byddwn yn ysgrifennu at gwmnïau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys y cwmnïau angori, gyda'r bwriad o gynnal fforwm ymgysylltu â busnesau yn canolbwyntio ar faterion a godwyd gan y canlyniad.