Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel Aelod Cynulliad yn y gogledd-ddwyrain, mae llawer o’m hetholwyr yn cael eu cyflogi mewn gweithleoedd mawr fel Airbus. Mae’r bleidlais i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i'r bobl hyn a'u teuluoedd yn ogystal â’r cannoedd a gyflogir drwy'r gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y safle awyrofod hefyd. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r gweithlu a'u teuluoedd y bydd y Llywodraeth hon yn ymladd dros eu bywoliaeth yn y dyfodol a’r trysor diwydiannol yng nghoron y gogledd?