Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod masnach ryngwladol yn golygu y bydd nwyddau’n symud o gwmpas y byd. Rydym ni’n hynod ddibynnol ar allforion yng Nghymru. Y peth olaf y byddem ni eisiau ei wneud fyddai cyfyngu ar ein gallu i allforio. Wrth gwrs, rydym ni eisiau caffael pethau mor lleol â phosibl, lle gellir gwneud hynny, ac mae ein strategaeth gaffael yn adlewyrchu hynny.