1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau Ewropeaidd ôl-Brexit yn ymwneud â llygredd aer? OAQ(5)0100(FM)
Mae'n iawn i ddweud bod cyfarwyddebau'r UE wedi sbarduno llawer o'n deddfwriaeth ansawdd aer a byddwn yn edrych ar y rhain ar sail achosion unigol ar ôl i ni gytuno ar y safbwynt negodi ar gyfer gadael, ond caiff rheolaeth ansawdd aer lleol ei sbarduno gan Ddeddf yr amgylchedd 1995.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n rhaid i ni beidio ag aberthu amddiffyniadau amgylcheddol Ewropeaidd. Nid oes amheuaeth na allwn fforddio i Lywodraeth y DU yn y dyfodol wanhau’r terfynau hyn. Er bod y rheoliadau’n dal i fod y tu allan i'r UE, byddwn yn colli'r gorfodi hanfodol yr oedd cyfraith yr UE yn ei ddarparu. Mae llygredd aer a newid yn yr hinsawdd yn faterion difrifol, nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genedlaethau'r dyfodol. Yn dilyn canlyniad y refferendwm, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gadw'r amddiffyniadau amgylcheddol hyn a sicrhau bod y rheolau hyn yn cael eu gorfodi?
Fel y dywedais yn gynharach, bydd yr hyn sydd eisoes wedi ei drosi i gyfraith Cymru yn aros yng nghyfraith Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru wedyn ac, wrth gwrs, i'r Cynulliad, yw penderfynu pa ddeddfau ddylai aros wedyn. Ond, mae'n werth nodi mai cymhellion Ewropeaidd sydd wedi galluogi'r DU i wella ei sefyllfa. Roedd gan y DU enw gwael, yn amgylcheddol, fel ffynhonnell o law asid. Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle’r oedd Afon Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau, yn llythrennol, yn ôl yr hyn a oedd wedi cael ei daflu i mewn iddi i fyny'r afon o rai o'r ffatrïoedd ac, wrth gwrs, y pyllau glo a oedd yn bodoli i fyny'r afon. Felly, roedd yn llifo’n goch, yn wyrdd, yn ddu—enwch unrhyw liw. Nid yw'n digwydd nawr; mae'n afon y gallwch chi weld ei gwaelod erbyn hyn. Yn Afon Taf, fel y gwyddom, ceir rhediad eogiaid sy'n mynd i fyny'r afon , a fyddai wedi bod y tu hwnt i amgyffred 30 mlynedd yn ôl gan fod yr afon mor llygredig. Mae llawer o'r sbardun hwnnw wedi dod o Ewrop mewn gwirionedd, er mwyn gwneud yn siŵr bod y DU yn dal i fyny â’r gweddill. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw nad ydym ni’n colli’r cymhelliad sydd wedi bodoli dros y 30 mlynedd diwethaf.
Mae'r Llywodraethau Ceidwadol a Llafur wedi cydnabod yr angen i ddeddfu i wella ansawdd aer trwy gyflwyno mesurau i reoli a lleihau llygredd. Pasiwyd llawer o'r mesurau hyn cyn i ni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, Deddfau Aer Glân 1956 a 1968. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn annirnadwy y bydd unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn cymryd camau i wrthdroi unrhyw reoliadau cyfredol yr UE sydd ar waith i reoleiddio ansawdd yr aer yng Nghymru?
Nid wyf yn credu ei bod yn annirnadwy, o ystyried yr hyn yr wyf i wedi ei glywed am ffracio a chloddio glo brig; nid wyf yn credu ei fod yn annirnadwy. Cyflwynwyd y Ddeddf Aer Glân gan fod pobl yn llythrennol yn syrthio’n farw yn Llundain oherwydd niwl gwenwynig yn y ddinas honno. Nid oedd llawer o ddewis heblaw cyflwyno deddfwriaeth ar yr adeg honno. Ond, yn sicr, yn y 1980au, roedd ein hafonydd yn dal—. Roedd afon yn Swydd Efrog a fyddai'n mynd ar dân, pe byddech chi’n taflu matsien i mewn iddi; roedd gennym ni afonydd yng Nghymru a oedd yn hynod lygredig; nid oedd ein traethau’n lân; roedd ansawdd ein haer yn wael iawn, iawn. Mae hynny i gyd wedi gwella'n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac rydym ni wedi cael ein gyrru i'r cyfeiriad hwnnw, a dweud y gwir, gan yr Undeb Ewropeaidd; fel arall, ni fyddem wedi ei wneud ein hunain. Rwy’n bwriadu gwneud yn siŵr y bydd yr amgylchedd y mae pobl Cymru wedi dod i’w fwynhau, yr amgylchedd y mae pobl wedi dod i’w haeddu, yn parhau felly yn y dyfodol, ac na fydd yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oeddwn i’n fachgen ifanc, pan oedd yr afonydd yn llygredig, pan oedd tomennydd sbwriel ym mhobman, tan iddyn nhw gael eu clirio, ac yr oedd pobl yn disgwyl y byddai pethau yn aros felly. Nid yw hynny'n wir; rydym ni’n wlad erbyn hyn lle y gallwn fod yn falch o'n hamgylchedd.
Brif Weinidog, o gofio bod y llygredd sy’n cael ei greu gan longau 260 gwaith yn fwy na’r hyn a gynhyrchir gan holl geir y byd a bod angen gweithredu ar lefel byd-eang yn hytrach na chyfandirol, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda’r Sefydliad Morol Rhyngwladol ac eraill mewn ymdrech roi sylw o ddifrif i'r broblem llygredd aer byd-eang?
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod masnach ryngwladol yn golygu y bydd nwyddau’n symud o gwmpas y byd. Rydym ni’n hynod ddibynnol ar allforion yng Nghymru. Y peth olaf y byddem ni eisiau ei wneud fyddai cyfyngu ar ein gallu i allforio. Wrth gwrs, rydym ni eisiau caffael pethau mor lleol â phosibl, lle gellir gwneud hynny, ac mae ein strategaeth gaffael yn adlewyrchu hynny.