<p>Cyllid gan yr UE a ddarperir i Gymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:16, 5 Gorffennaf 2016

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu cynllun busnes ar ddeuoli pont Brittania. Rydw i’n meddwl ein bod ni’n disgwyl datblygiad ar hynny yn fuan. Ond mae hwn yn broject y gallem ni fod wedi disgwyl gwneud cais am arian Ewropeaidd fel cyfraniad tuag ato fo, oherwydd pwysigrwydd yr A55 fel rhan o’r rhwydwaith drafnidiaeth Ewropeaidd. A gaf i ofyn beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â’r posibilrwydd o golli y ffynhonnell yna o arian rŵan, ac a wnaiff o roi ymrwymiad i bwyso ar Lywodraeth Prydain, os ydy’r ffynhonnell yn cael ei cholli, i sicrhau bod yr arian yn dod fel rhan, o bosibl, o ryw ‘Marshall plan’ ar gyfer economi Cymru rydym ni wedi ei grybwyll fel plaid?