<p>Cyllid gan yr UE a ddarperir i Gymru</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r risgiau i economi Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn gwarantu pob ceiniog o gyllid a gaiff ei ddarparu i Gymru ar hyn o bryd gan yr UE? OAQ(5)0101(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Byddai'n golygu y byddai £650 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli o ran gwariant y Llywodraeth, gan gynnwys £260 miliwn mewn cymorthdaliadau ffermio.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Er 2007, mae prosiectau'r UE wedi creu 11,900 o fentrau a tua 37,000 o swyddi. Mae'r arian UE hwn wedi helpu 72,700 o bobl i mewn i waith, wedi helpu mwy na 229,000 i ennill cymwysterau, ac wedi ariannu 56,000 o bobl i mewn i ddysgu pellach er 2007. O dan y rhaglenni £1.8 biliwn presennol a gefnogir gan yr UE, ymrwymwyd mwy na £700 miliwn o arian strwythurol yr UE eisoes, a dim ond 40 y cant o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cyfnod 2014-20 yw hynny. Felly, a all y Prif Weinidog nodi pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd—ac rydym ni eisoes wedi clywed yn gynharach am addewidion a gwarantau R.T. Davies yn hyn o beth—er mwyn sicrhau bod addewid yr ymadawyr na fydd cyllid Cymru yn cael ei effeithio yn cael ei gadw, yn wahanol i’r addewidion eraill a dorrwyd yr ydym ni wedi eu clywed am roi £350 miliwn yn ychwanegol i mewn i'r GIG? Diolch.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Yr anhawster yw bod y rhai sydd wedi hyrwyddo rhai o'r addewidion hyn wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrthynt: taflu bricsen drwy'r ffenestr a gadael i bobl eraill godi'r darnau. Rwy’n disgwyl i’r bobl hynny a wnaeth yr addewidion hynny, ac a allai’n wir fod mewn Llywodraeth yn Llundain yn ystod y misoedd nesaf, gadw at yr addewidion hynny. Roedd honno’n adduned a wnaed i bobl Cymru ac, yn wir, mewn gwledydd eraill ac, yn wir, rhanbarthau Lloegr. Ni allaf feddwl am unrhyw beth a fyddai'n dod â gwleidyddiaeth i fwy o anfri na phe byddai gwleidyddion yn dweud ar y naill law, 'Bydd pob un geiniog yn cael ei sicrhau', ac yna'n dweud, 'Doedden ni ddim yn golygu hynna'—'Doedden ni ddim yn golygu hynna'. Byddai hynny'n golygu torri'r addewid mwyaf sylfaenol a wnaed i bobl Cymru, a bydd pobl Cymru yn dwyn y bobl hynny i gyfrif.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu cynllun busnes ar ddeuoli pont Brittania. Rydw i’n meddwl ein bod ni’n disgwyl datblygiad ar hynny yn fuan. Ond mae hwn yn broject y gallem ni fod wedi disgwyl gwneud cais am arian Ewropeaidd fel cyfraniad tuag ato fo, oherwydd pwysigrwydd yr A55 fel rhan o’r rhwydwaith drafnidiaeth Ewropeaidd. A gaf i ofyn beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â’r posibilrwydd o golli y ffynhonnell yna o arian rŵan, ac a wnaiff o roi ymrwymiad i bwyso ar Lywodraeth Prydain, os ydy’r ffynhonnell yn cael ei cholli, i sicrhau bod yr arian yn dod fel rhan, o bosibl, o ryw ‘Marshall plan’ ar gyfer economi Cymru rydym ni wedi ei grybwyll fel plaid?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 5 Gorffennaf 2016

Wel, daeth arian y ‘Marshall plan’ o’r Unol Daleithiau, ond rydw i’n deall y pwynt. Rwyf wedi ei ddweud sawl gwaith, sef y dylai pob ceiniog sy’n cael ei cholli gael ei gwneud lan gan y rheini wnaeth addo y byddai hynny yn digwydd, ac mae hynny’n meddwl y byddai’r arian yn dod—. Rydym ni wedi clywed wrth bobl a oedd yn dadlau y dylem ni adael yr Undeb Ewropeaidd: fe ddywedon nhw y byddai llwyth o arian ar gael. Wel, gawn ni weld lle mae’r arian hwnnw felly ynglŷn â Chymru, a sicrhau taw pobl Cymru sydd yn penderfynu ym mha ffordd mae’r arian hwnnw yn cael ei hala. Ond lan i nawr, wrth gwrs, i gyd rydym wedi ei glywed yw pobl yn tynnu yn ôl o’r addewid hwnnw. Rwyf i, fel mae ef, wrth gwrs, yn gryf o blaid y dylem ni ymladd dros Gymru ac nid ymladd yn erbyn Cymru, a dyna beth rydym wedi ei glywed yn y Siambr hon gan rai y prynhawn yma.