Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Wel, mae gennym system gymhleth o drefniadau contract wedi'i sefydlu i ddarparu dysgu yn y gwaith drwy system o brif gontractau ac wedyn is-gontractau; ac mewn gwirionedd, mae'n ddarlun eithaf cymhleth. Weithiau, mae’r colegau addysg bellach yn is-gontractwyr i'r prif gontractwr ac i'r gwrthwyneb. Yr hyn y gallaf ei gadarnhau i'r Aelod yw ein bod yn rhoi cryn flaenoriaeth i anghenion dysgu sy’n seiliedig ar gymwysterau sy’n seiliedig ar gyfleoedd cyflogaeth penodol, fel y nodwyd drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rydym yn adolygu’r ffordd yr ydym yn ariannu’r rheini, gyda’r bwriad—fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol—o fod mor hyblyg â phosibl, o fod mor gyfrifol ag y bo modd, yn dibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd. Mae'n gwestiwn cymhleth a manwl iawn a bydd y Llywydd yn flin iawn â mi os gwnaf ei ateb yn fanwl. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth arall gyda chi mewn man arall.