Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Lywydd dros dro. Cwestiwn byr iawn sydd gennyf. Weinidog, yn ogystal â’r cymorth ar gyfer rhaglenni prentisiaeth, roedd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn darparu ar gyfer hyfforddiant arwahanol ar gyfer sgiliau a chymwysterau galwedigaethol, a darperir hyfforddiant o’r fath sy'n canolbwyntio ar gymhwysterau ar hyn o bryd yn ein colegau addysg bellach yng Nghymru a thrwy ddarparwyr dysgu preifat. Mae'r hyfforddiant hwn yn amlwg yn elfen bwysig wrth sicrhau bod gweithlu hyfforddedig â sgiliau addas ar gael ar gyfer busnesau sy'n awyddus i sefydlu mewn cymunedau lleol. Enghraifft amlwg o hynny fyddai trefniant Tenneco-Walker ym Merthyr, a oedd angen weldwyr medrus wrth sefydlu’r ffatri newydd yno, ym Merthyr Tudful. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, pe byddai pwysau ar gyllid ar gyfer cynlluniau o'r fath yn codi yn y dyfodol, y dylai unrhyw arian gael ei flaenoriaethu tuag at golegau addysg bellach i ddarparu’r hyfforddiant hanfodol hwn, yn hytrach na chael ei sianelu tuag at ddarparwyr dysgu preifat i sicrhau bod y swm uchaf posibl o arian yn cael ei gadw yn y system?