10. 9. Datganiad: Cymorth Cyflogadwyedd yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:55, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf yn rhoi croeso cyffredinol i'r nodau a'r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn heddiw. Bydd gwella sgiliau pobl Cymru yn arwain at gymdeithas fwy ffyniannus, gyda chyfraddau uwch o gyflogaeth a lefel is o dlodi, a bydd yn lleihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod sgiliau'r gweithlu yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â nid yn unig rhanbarthau mwy ffyniannus y Deyrnas Unedig ond hefyd gwledydd datblygedig blaenllaw'r byd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sut y bydd yn annog cydweithio rhwng pob agwedd ar y system addysg a'r gymuned fusnes, ac yn hyrwyddo mwy o ddewisiadau i ddysgwyr?

Mae cyfraddau diweithdra yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae prentisiaethau yn fwyaf addas ar gyfer pobl sy'n dysgu orau mewn lleoliad ymarferol. A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar ei chynlluniau i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig i ddatblygu cyflogadwyedd a helpu pobl i gael swyddi? Er mwyn i strategaeth Llywodraeth Cymru lwyddo, mae’n rhaid bod gan gyflogwyr hyder ynddi. A all y Gweinidog roi sicrwydd i’r Cynulliad hwn bod barn busnesau wedi ei ystyried wrth lunio ei pholisïau, ac a fydd hi’n cynyddu'r cymorth i fusnesau yng Nghymru? Mae busnesau wedi mynegi pryderon yn y gorffennol ynghylch lefelau llythrennedd a rhifedd oedolion o oedran gweithio. Sut y bydd y Gweinidog yn ymdrin â’r broblem honno yma?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn wybod sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu monitro cynnydd tuag at ei nod o sicrhau ei bod yn darparu’r gweithlu tra hyfforddedig sydd ei angen er mwyn lleihau tlodi, annog busnesau i dyfu, ac adfywio ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Cymoedd ac yng Nghymru.