Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â hyder cyflogwyr yn un diddorol. Cawsom ymgynghoriad eang dros yr haf—yr haf diwethaf—gyda chyflogwyr ar ein rhaglenni prentisiaethau, a gafodd ei droi ar ei ben yn llwyr gan y cyhoeddiadau ar lefel y DU am yr ardoll prentisiaeth, a dorrodd yn syth ar draws hynny. Bydd aelodau a oedd yma yn y pedwerydd Cynulliad yn cofio fy mhryder bod yn rhaid inni roi'r gorau i’r ymgynghoriad hwnnw tra ein bod yn ceisio deall beth ar y ddaear oedd yn digwydd gyda'r ardoll prentisiaeth, ac rwy'n drist i ddweud ein bod yn dal i fod mewn sefyllfa lle nad ydym yn hollol siŵr faint o arian fydd, os bydd arian o gwbl, yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll honno. Felly, mae hynny wedi achosi cryn dipyn o anesmwythyd, gadewch i ni ddweud, gyda chyflogwyr, gan nad yw wedi bod yn bosibl darparu sicrwydd, naill ai ar lefel y DU nac ar lefel Cymru. Yn wir, rydym mewn cyfres o ohebiaeth a chyfarfodydd gydag amrywiol Weinidogion, yn ceisio datrys hynny. Felly, yr wyf yn cytuno ag ef y gallai hyder cyflogwyr fod yn uwch yn y system honno, ond nid wyf yn cytuno ag ef bod Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am hynny. Yn wir, byddwn yn gofyn iddo edrych ar y Llywodraeth ar lefel y DU—a reolir gan y Blaid Geidwadol, rwy’n credu—a gofyn pa werth ychwanegol y mae’r ardoll prentisiaeth hon wedi ei gyfrannu i’r system hon, mewn gwirionedd, oherwydd, a dweud y gwir, ni allaf i ei weld.
O ran ein rhaglenni ein hunain, mae galw mawr amdanynt gan ein cyflogwyr. Mae gennym un o'r cyfraddau cwblhau uchaf yn Ewrop, sef 86 y cant. Mae rhai o'n darparwyr i fyny yn y cyfraddau cwblhau 90 y cant. Dyna sut yr ydym yn monitro cynnydd—yn ôl cyfradd cwblhau, ac yna cyflogaeth yn dilyn y fframweithiau. Mae gennym hefyd fframweithiau hyblyg fel bod cyflogwyr sydd angen—. Er enghraifft, yn ddiweddar iawn, roedd gennym brinder o bobl â sgiliau gyrru lori pellter hir. Roeddem yn gallu rhoi fframwaith ar waith i lenwi'r bwlch hwnnw yn gyflym iawn, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae gennym raglen hyblyg iawn sy'n ein galluogi i ymateb i'r math hwnnw o alw.
O ran y sgiliau cyffredinol, bydd yr Aelod yn cofio ein bod wedi trafod sawl gwaith yn y Siambr hon ein hangen i symud i sgiliau uwch, i ffwrdd o sgiliau lefel sylfaen a phrentisiaethau, a bod ein rhaglen bellach yn cwmpasu system brentisiaethau i bob oedran, sy'n galluogi pobl i symud ymlaen i brentisiaethau lefel uwch hyd at lefel gradd ac ôl-radd—y mae galw mawr amdanynt gan rai o'n cyflogwyr blaenllaw, megis Airbus, GE Aviation, ac yn y blaen. Mae nifer fawr ohonynt; dim ond dau ohonynt yw’r rhain. Rydym yn falch iawn o hynny a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym hefyd yn edrych ar y rhaglen sgiliau hanfodol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch i'r bobl hynny sy'n dal i fod angen y sgiliau hanfodol y soniodd yr Aelod amdanynt.