Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Lywydd dros dro, a diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n meddwl bod eich dull yn gwbl synhwyrol. Os oes gennym lai o arian i’w ddefnyddio, yna mae'n bwysig iawn ein bod yn cael gwared ar ddyblygu ymdrech. Felly, rwy’n croesawu eich cynnig i greu’r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, gan ddod â’r holl wahanol raglenni eraill hyn at ei gilydd. Rwy'n talu teyrnged arbennig i'r rhaglen Twf Swyddi Cymru, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i lawer iawn o fy etholwyr i, o ran rhoi help llaw gwirioneddol iddynt i mewn i yrfaoedd llwyddiannus, na fyddent efallai, heb y blas cyntaf hwnnw o waith, wedi gallu gwneud hynny a gallent beidio â bod â bywyd gwaith llwyddiannus. Rwy’n croesawu eich sicrwydd ynghylch pwysigrwydd rhoi cymorth unigol yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.
Wrth gwrs, mae'n bwysig iawn cydnabod, os yw pobl wedi bod y tu allan i'r farchnad lafur am gyfnod o amser, bod rhai pobl yn mynd yn agoraffobig a bod angen llawer o waith i'w perswadio i fynd yn ôl i gymdeithas yn ogystal ag yn ôl i drafferthion gwaith. Roeddwn i’n pendroni tybed pa mor dda yr ydym yn parhau i sicrhau bod ein hysgolion a'n colegau yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau bod yr holl anghenion unigol yn cael eu diwallu, oherwydd cefais fy syfrdanu yn ddiweddar wrth nodi rhywun sydd yn amlwg wedi bod ar y sbectrwm awtistig drwy ei holl fywyd ond ni nodwyd hynny erioed yn ei ysgolion na’i golegau—dim ond nawr mae’n cael ei nodi. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod anghenion dysgu unigol yn cael eu nodi’n gynnar, gan fod colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwych dros bobl nad ydynt wedi cael y cymorth angenrheidiol yn y system addysg ysgol ac maent yn rhoi gobaith newydd i bobl nad ydynt wedi cael gyrfa ysgol lwyddiannus. Ond dylem yn sicr fod yn atal y math hwn o beth rhag digwydd yn gyffredinol.
Rwyf wedi bod i un neu ddwy o gynadleddau yn ddiweddar lle mae pobl wedi bod yn dweud, ‘Beth sy'n mynd i ddigwydd i hyfforddiant os ydym ni’n mynd i golli’r holl arian sy'n dod o'r UE?’ Wel, yn amlwg, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn cyflawni’r addewidion a wnaed gan y rhaglen ‘gadael’, oherwydd rydym yn parhau i fod angen yr hyfforddiant hwnnw. Ond rydym hefyd, rwy'n credu, yn gorfod sicrhau bod busnesau, hyfforddwyr a’r Llywodraeth yn dweud, 'Wel, mae'n rhaid i ni gadw i fynd beth bynnag', oherwydd ni allwn fodloni'r bylchau mewn sgiliau y bydd eu hangen arnom ar gyfer y rhaglenni trawsnewidiol y bydd yn rhaid i ni eu cael, fel y metro, fel y rhaglen ynni craffach—sy’n manteisio ar ein cyfoeth o ynni cynaliadwy—megis ein rhaglen tai cynaliadwy, fel ein bod yn adeiladu tai y dyfodol sy'n cynhyrchu ynni yn hytrach na gollwng ynni. Ar eu cyfer nhw, mae arnom angen pobl sydd â sgiliau manwl iawn.
Felly, rwy’n credu mai’r her i ni yw sicrhau ein bod yn creu'r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau, ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, ond ein bod hefyd yn eu cadw ar gyfer Cymru oherwydd, fel arall, rydym ni ond yn creu sgiliau sydd eu hangen ar rannau eraill o'r DU, ac rydym ni’n eu noddi ac yn amlwg nid yw hynny’n deg. Felly, rwy’n credu ei fod yn gydbwysedd anodd, ond rwy’n croesawu eich datganiad ac yn gobeithio y gallwn barhau i symud ymlaen er gwaethaf cael llai o arian.