Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau yna. Hoffwn ddweud fy mod i'n gweithio yn agos iawn gyda fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o ran sicrhau bod y cyfnodau pontio rhwng pob maes addysg mor llyfn â phosibl a’n bod yn nodi anghenion dysgwyr unigol ar yr adegau hynny er mwyn inni eu nodi yn gywir. Mae hyn am ddau reswm: un, er budd yr unigolyn dan sylw, ond hefyd er mwyn sicrhau nad ydym yn gwario arian yn ddiangen sawl gwaith a chyn i rywun gael ei hun ar y llwybr cywir. Mae hynny’n ffordd ddrud iawn o wneud pethau.
Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos, pob un ohonom ym mhob rhan o’r Llywodraeth, ar sicrhau bod addysg alwedigaethol yn cael lle haeddiannol mewn ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod pobl yn dilyn y llwybr cywir hwnnw yn y lle cyntaf ac nad ydynt yn mynd i addysg uwch ac yna yn mynd yn ôl a dechrau rhaglen brentisiaeth pan fo hynny'n amhriodol. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith ym mhob rhan o’r Llywodraeth ar y ddwy agwedd hyn ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd un ohonom yn dod â datganiad yn ôl i ddweud sut y gwnaethom ddod ymlaen â hynny yn ystod tymor yr hydref. Ond mae'n bwynt pwysig iawn.
Y peth arall i'w ddweud yw bod y cwmnïau hynny sy'n hyfforddi yng Nghymru yn gwneud llawer o hyfforddiant, ond mae gennym nifer ystyfnig o gwmnïau nad ydynt yn gwneud unrhyw hyfforddiant. Rydym yn gwneud ychydig o waith efengylu i wneud yn siŵr bod cwmnïau nad ydynt yn hyfforddi ar hyn o bryd yn deall yr angen amdano. Rwyf i am rannu’r hyn sy'n ymddangos yn ddywediad braidd yn ystrydebol, ond mae'n dweud y cyfan. Os ydych yn dweud, fel y gwnaethoch chi yn gywir, 'Beth sy'n digwydd os ydym ni’n hyfforddi pobl a’u bod yn gadael?', y cwestiwn y dylech ei ofyn yw: 'Beth sy'n digwydd os nad ydych chi’n hyfforddi pobl a’u bod yn aros?', sy’n gwestiwn llawer mwy pwysig ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau. Dyna'r meddylfryd yr ydym eisiau ei sefydlu yn ein busnesau: sef, , bod gweithlu â chymwysterau da sy’n ymgysylltu, mewn gwirionedd yn fwy teyrngar, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy tebygol o fod o fudd i'ch busnes na gweithlu anghynhyrchiol â sgiliau isel yr ydych yn gwneud eich gorau glas i ddal eich gafael arnynt hyd nes y gallant ddod o hyd i rywle arall y maent yn daer am fynd iddo—nid dyna’r darlun o'r economi yr ydym yn ceisio ei greu.
Yn wir, mae gennym nifer o gwmnïau sy'n esiamplau disglair o ddarparwyr hyfforddiant. Yn ddiweddar, ymwelais ag Admiral, sydd â rhaglen wych o sgiliau cyflogadwyedd, ond hefyd sgiliau bywyd, y maent yn eu cynnig i'w gweithwyr. Mae ganddynt lefelau cadw a chynhyrchiant rhagorol y tu mewn i'r cwmni o ganlyniad i hynny. Mae Dŵr Cymru yn un arall—mae sawl enghraifft o hynny. Rydym yn dysgu o'r profiadau hynny yr holl ffordd trwodd.
Felly, rwy’n credu mai’r hyn yr wyf i yn ei gyhoeddi heddiw yw rhaglen gynhwysfawr i dynnu ein pethau at ei gilydd er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio, i berswadio pobl mai hyfforddiant yw’r ffordd iawn o wneud yn siŵr ein bod yn diwallu anghenion sgiliau y dyfodol ac i sicrhau bod pobl sydd ag anawsterau ac anghenion dysgu penodol yn cael eu nodi yn y rhaglen honno, wrth iddynt fwrw ymlaen drwyddi, trwy roi'r dynodwyr cywir yn y system.