Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch, Lywydd, a hoffwn i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy’n credu fy mod i’n mynd i ddechrau’r ddadl yma heddiw, ond heb ei gwthio at bleidlais, er mwyn inni allu cael y drafodaeth ynglŷn â’r newid yma yn y Cynulliad ac i ganiatáu wedyn i’r Llywydd ymgynghori ar y sefyllfa.
Ond, yn gyntaf, hoffwn groesawu’r cyfle i siarad ar y mater yma a geiriad agored y cynnig—cynnig sy’n rhoi cyfle inni ystyried yn ofalus enw ein corff democrataidd cenedlaethol. Fel pob un ohonom, rwy’n credu y dylem, fel sefydliad, anelu at fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i’r genedl, o ran ein polisïau, ein deddfwriaeth flaengar, ond hefyd ein defnydd o’n hiaith genedlaethol unigryw.
Yn 1997, enillom ni ddatganoli ar y sail y byddem yn creu democratiaeth o fath newydd a fyddai’n adlewyrchu gwerthoedd Cymru, nid fforwm i ddilyn arferion gwledydd eraill, heb eu cwestiynu. Yn ystod y degawd a hanner diwethaf, efallai y gallech chi ddadlau ein bod ni wedi canolbwyntio gormod ar statws ein sefydliadau yn hytrach nag ar ddilyn ein trywydd ein hunain. Dros gyfnod o 17 mlynedd, rydym wedi ceisio adeiladu sefydliad sy’n cael ei barchu, wedi gwahanu’r ddeddfwrfa o’r Weithrediaeth ac wedi ailenwi ‘Ysgrifenyddion’ yn ‘Weinidogion’, ac yn ôl eto. Penderfynodd gwleidyddion yr Alban alw’r ‘Scottish Executive’ yn ‘Llywodraeth yr Alban’ yn 2007 ac wedyn, yn 2011, fe wnaethom ni eu dilyn. Mae fel petai ein hyder yn deillio o, ac yn dibynnu ar efelychu eraill, fel bod yn rhaid edrych dros ein hysgwydd am arweiniad o hyd.
Dywedodd Raymond Williams yn 1975 mai arwydd o’r wir Gymru newydd fyddai, ac rwy’n dyfynnu, cyfnod
‘o greu newydd a gweithredol: pobl yn ddigon sicr o’u hunain i daflu eu beichiau; gwybod bod y gorffennol yn perthyn i’r gorffennol, fel llunio hanes, ond gydag ymdeimlad hyderus newydd o’r presennol a’r dyfodol, lle bydd yr ystyron a’r gwerthoedd tyngedfennol yn cael eu ffurfio.’
Felly gadewch i ni ddilyn ein trywydd ein hunain, gadewch i ni fod yn ddigon sicr o’n hunain i daflu ein beichiau meddyliol, a manteisio ar y cyfle i fod yn unigryw drwy gael enw swyddogol uniaith Gymraeg ar ein Senedd.
Ystyriwch y sefydliadau rydym fel Senedd yn eu cefnogi sydd ag enwau uniaith Gymraeg, o Chwarae Teg i’r Urdd, o Merched y Wawr i’r Mudiad Meithrin. Os ydym ni am feithrin ein plant bach gyda’r Gymraeg ar eu tafodau, gadewch i ni feithrin ein democratiaeth yn yr un modd. Mae’n hanthem genedlaethol yn uno ein cenedl—efallai mai dyna pam nad oes gen i ddim llais heddiw—gyda geiriau uniaith Gymraeg. Pan fo torf yn ei bloeddio, mae’n cenedl yn unedig. Mae’n uno pobl waeth beth yw eu cefndir na’u hiaith gyntaf. Ac, wrth sôn am ein hanthem, dylem gofio y foment pan wisgodd ein tîm pêl-droed grysau â’r gair ‘diolch’ arnynt—ein tîm pêl-droed cenedlaethol ar lwyfan y byd yn defnyddio’r Gymraeg yn hyderus. Oni ddylem ni weithredu yn yr un modd?
Cyn cloi, hoffwn ddelio â rhai dadleuon posib yn erbyn yr awgrym yma. Efallai y bydd nifer ohonoch chi yn credu y dylem ni gadw’r enw ‘Cynulliad Cenedlaethol’, ac mae gen i gydymdeimlad â’r ddadl honno. Mae’n enw a ddefnyddir ar draws y byd, o Giwba i Ffrainc, ond fe hoffwn i i’r Llywydd ystyried ‘Senedd’, gan fod y gair yn un sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar lawr gwlad. Mae adroddiad gwallus wedi bod yn y wasg yn honni bod y gair ‘Senedd’ yn cyfeirio at Senedd San Steffan. Fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, mae ‘Senedd’ yn cyfeirio at gorff deddfu gwlad, nid at Senedd y Deyrnas Unedig yn benodol.
Yn olaf, gwn fod rhai wedi dadlau mai enw’r adeilad yma yw ‘Senedd’ ac y dylai fod enw arall ar y ddeddfwrfa. Un ateb syml i hynny fyddai ailenwi’r adeilad yn ‘Senedd-dy’ os dymunwn ni, ond nid wyf i’n gweld bod yna broblem fawr wrth gael enw ar adeilad ac wedyn enw ar sefydliad—cael yr un enw ar yr adeilad a’r sefydliad. Rwy’n credu ei bod hi’n weddol hawdd i bobl allu deall hynny. Mae’r gair ‘Senedd’ â’i wreiddiau yn Lladin, iaith sy’n uno ein cyfandir yn ei holl amrywiaeth. Ac, wedi i ni, yn groes i ewyllys nifer ohonom yn y Senedd yma, benderfynu cefnu ar yr Undeb Ewropeaidd, gadewch i ni gymryd cam a fyddai’n cryfhau undeb Ewropeaidd arall, drwy atgyfnerthu hen undeb ddiwylliannol o’r newydd. Diolch yn fawr.