12. 11. Dadl: Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 6:15, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, fel yr wyf wedi ei ddweud, o fy safbwynt i, nid wyf wedi cael problem â hyn, oherwydd, yn amlwg, rwyf yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ac rwyf yn llwyr ddeall ystyr y gair Senedd yn y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio yn y Gymraeg, ond, yn amlwg, i lawer o bobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa'n gweithio, y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio yma, ac os meddyliwch chi am yr Alban, er enghraifft, mae'r cyfeiriad yn gyfeiriad at y 'Parliament' yn yr Alban, er gwaethaf, yn amlwg, bod gan yr Alban ei hiaith ei hun ac, yn amlwg, yr hyrwyddir yr iaith honno. Ac rwyf yn credu bod angen i unrhyw ailenwi fod â'r gallu, wrth wraidd ei broses, yn amlwg, i bobl ddeall yn rhwydd pwy sydd â chyfrifoldeb a phwy sydd â'r swyddogaeth, ac, fel y dywedodd y Llywydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd cyfrifoldeb hwnnw bellach yn dod atom ni drwy Fil Cymru, a'r gallu hwnnw i ni ailenwi’r corff hwn. Ceir trafodaeth bod rhai Aelodau yn credu'n amlwg y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol barhau fel ag y mae, ac rwyf yn croesawu'r cyfle am y drafodaeth a'r ymgynghori y dywedodd y Llywydd fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf. O'n safbwynt ni, mae gennym bleidlais rydd ar hyn, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n fater gwleidyddol; nid wyf yn ei weld fel mater gwleidyddol, a dweud y gwir. Ein dyletswydd ni fel Aelodau yw ceisio myfyrio ar ein gwaith, myfyrio ar y cyfathrebu gydag aelodau'r cymunedau a'n hetholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma, ac, yn y pen draw, adlewyrchu deinameg newydd y ddeddfwrfa, y berthynas â'r Llywodraeth, a'r berthynas â'r cymunedau, boed nhw yn y gogledd, y canolbarth neu'r de. Felly, rwyf yn croesawu'r ddadl gychwynnol hon, ond, yn amlwg, bydd nifer o ddadleuon eraill yn ymwneud â'r mater hwn.