12. 11. Dadl: Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:16, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Fel pawb arall, rwyf yn croesawu'r ddadl hon, er fy mod yn meddwl tybed, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, a allent fod yn ei ystyried fel rhyw fath o fogailsyllu ymhongar braidd ac nad ydynt yn poeni fawr am yr hyn yr ydym yn galw ein hunain—cyn belled ag y gallaf ddweud, maen nhw'n feirniadol iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn. Ond, mae nifer ohonom, wrth gwrs, wedi bod yn Aelodau Seneddol mewn lle arall, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu'r ffaith bod gennym bellach y cyfle i greu senedd wirioneddol yno, yn hytrach na'r un a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Ond, pan fydd Bil Cymru yn cael ei basio a phwerau trethu yn cael eu datganoli i'r sefydliad hwn, bydd, wrth gwrs, dadl wirioneddol i alw ein hunain yn senedd, gan fod trethu a chynrychiolaeth wedi cyd-fynd yn draddodiadol ym meddyliau pobl sy'n cefnogi democratiaeth.

Rwyf i'n bersonol yn eithaf hoff o'r syniad o gael 'Senedd' fel enw, ac rwyf yn mwynhau bod yn 'Aelod o'r Senedd', a tybed a fyddai hynny'n ein gwneud i ni yn seneddwyr, yn y pen draw, a beth fyddai barn y cyhoedd ar hynny. Fel y nododd Bethan Jenkins, mae hyn yn tarddu o'r hen Rufain, ac roedd yn golygu, wrth gwrs, os oeddech yn berson hen, roeddech yn cael eich ystyried fel bod yn ddoeth yn awtomatig, ac mae hon yn ddamcaniaeth yr wyf wedi closio ati—yr hynaf yr wyf yn mynd, y doethaf yr wyf yn mynd rwy’n credu. Ond nid oeddwn yn hoff o'i dadl ynglŷn â'r Cynulliad oherwydd ei fod yn cael ei alw yn hynny yn Cuba ac yn Ffrainc. Nid wyf yn awyddus i ddilyn esiampl yr un o'r ddwy wlad hynny.

Ond rydym yn croesawu, yn ein plaid ni—a bydd gennym ni bleidlais rydd ar hyn hefyd—trafodaeth genedlaethol ar y pwnc hwn, ac rwy'n siwr, yn dilyn y refferendwm, y bydd yr un faint o ddiddordeb gan y cyhoedd yn ein trafodaeth ar yr hyn yr ydym yn mynd i alw ein hunain. Felly, nid oes gennym yn bendant unrhyw wrthwynebiad i'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried goblygiadau'r newid hwn ac, yn wir, ymgynghori mor eang â phosibl, ac yna byddwn yn dod yn ôl a thrafod y mater mewn modd gwirioneddol.