13. 12. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:28 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 5 Gorffennaf 2016

Yn awr, rŷm ni’n symud ymlaen i’r cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw’r bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynigion. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynigion 47 ac yn erbyn pump. Felly, mae’r cynigion wedi’u derbyn.

Derbyniwyd y cynigion: O blaid 47, Yn erbyn 5, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynigion NDM6061, NDM6062, NDM6063, NDM6064, NDM6065, NDM6066 ac NDM6067.

Rhif adran 16 Cynnig i ethol Aelodau i'r saith pwyllgor polisi a deddfwraeth

Ie: 47 ASau

Na: 5 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 5 Gorffennaf 2016

Rwy’n symud nawr at bleidlais ar y cynllun cyflawni iechyd meddwl, ac rwy’n galw’n gyntaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, yn ymatal chwech ac yn erbyn wyth. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 8, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6054.

Rhif adran 17 NDM 6054 Gwelliant 1

Ie: 38 ASau

Na: 8 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 6 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:30, 5 Gorffennaf 2016

Symudwn, felly, at bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio—y cynnig yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6054 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:30, 5 Gorffennaf 2016

A gaf i agor y bleidlais? Cau’r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal 1, ac yn erbyn 0. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd NDM6054 fel y’i diwygiwyd: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6054 fel y’i diwygiwyd.

Rhif adran 18 NDM 6054 Cynnig (fel y'i diwygiwyd)

Ie: 47 ASau

Wedi ymatal: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Daeth y cyfarfod i ben am 18:30.