2. Cwestiwn Brys: Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:18, 5 Gorffennaf 2016

Diolch am y cadarnhad hwnnw, Brif Weinidog. Rwy’n gobeithio y byddwch chi yn cyhoeddi’r llythyr rydych chi wedi ei ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, a’i hateb hithau hefyd atoch chi. Er gwaethaf beth rŷm ni wedi ei glywed yn y Siambr heddiw, fe ddywedodd llefarydd ar ran Theresa May ddoe, wrth esbonio’r safbwynt a fynegwyd yn Nhŷ’r Cyffredin:

‘we do not want to give away our negotiating position at the start.’

I mi, mae hynny’n swnio fel bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trin fel gwerin gwyddbwyll, ac yn cael eu symud o gwmpas am resymau gwleidyddol. Mae yna 67,000 o bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yng Nghymru, 500 ohonyn nhw yn feddygon yn ein gwasanaeth iechyd ni. Nid oes modd i ni golli’r bobl hyn, a, beth bynnag, maen nhw’n rhan o’n teuluoedd ni, yn rhan o’n cymunedau ni ac yn rhan o’r Gymru fodern. Mae’n warthus fod y bobl hyn yn cael eu trin yn y ffordd maent wedi cael eu trin yn ystod yr wythnos diwethaf oherwydd etholiad tu fewn i un blaid, sy’n blaid leiafrifol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’n rhaid inni yrru neges gadarn o Gymru bod yna groeso i’r bobl yma yn ein cymunedau ni, ein bod ni’n moyn iddyn nhw aros, ein bod yn mynd i’w croesawu nhw a gwneud popeth y gallwn ni i ddangos hynny. Roedd yna ddigwyddiad ar y prom yn Aberystwyth dydd Sadwrn—nid wyf yn gwybod os gwelsoch chi fe yn y cyfryngau; ni chafodd lot o sylw, ond roedd yna 400 o bobl yno yn sefyll yn gadarn, ochr yn ochr â ffoaduriaid, pobl o wledydd eraill, a phawb sydd wedi dod i orllewin Cymru.