– Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
Rŷm ni’n nawr yn symud ymlaen i’r cwestiwn brys rwyf wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Simon Thomas i ofyn y cwestiwn brys.
Yn dilyn datganiad Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn y DU, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0105(FM)[W]
Er mwyn ailddweud beth a ddywedais i yn gynharach, sef, wrth gwrs, fy mod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref er mwyn sicrhau y bydd hi’n cadarnhau y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gadael i ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd aros yn y Deyrnas Unedig yn barhaol, y rheini sydd yno’n barod. Ac, wrth gwrs, mae’n hollol anghywir i weld y bobl hyn fel pobl y mae’n rhaid dadlau amdanynt neu eu trafod. Mae’n bwysig dros ben bod y gwarant yna yn cael ei rhoi nawr.
Diolch am y cadarnhad hwnnw, Brif Weinidog. Rwy’n gobeithio y byddwch chi yn cyhoeddi’r llythyr rydych chi wedi ei ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, a’i hateb hithau hefyd atoch chi. Er gwaethaf beth rŷm ni wedi ei glywed yn y Siambr heddiw, fe ddywedodd llefarydd ar ran Theresa May ddoe, wrth esbonio’r safbwynt a fynegwyd yn Nhŷ’r Cyffredin:
‘we do not want to give away our negotiating position at the start.’
I mi, mae hynny’n swnio fel bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trin fel gwerin gwyddbwyll, ac yn cael eu symud o gwmpas am resymau gwleidyddol. Mae yna 67,000 o bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yng Nghymru, 500 ohonyn nhw yn feddygon yn ein gwasanaeth iechyd ni. Nid oes modd i ni golli’r bobl hyn, a, beth bynnag, maen nhw’n rhan o’n teuluoedd ni, yn rhan o’n cymunedau ni ac yn rhan o’r Gymru fodern. Mae’n warthus fod y bobl hyn yn cael eu trin yn y ffordd maent wedi cael eu trin yn ystod yr wythnos diwethaf oherwydd etholiad tu fewn i un blaid, sy’n blaid leiafrifol yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae’n rhaid inni yrru neges gadarn o Gymru bod yna groeso i’r bobl yma yn ein cymunedau ni, ein bod ni’n moyn iddyn nhw aros, ein bod yn mynd i’w croesawu nhw a gwneud popeth y gallwn ni i ddangos hynny. Roedd yna ddigwyddiad ar y prom yn Aberystwyth dydd Sadwrn—nid wyf yn gwybod os gwelsoch chi fe yn y cyfryngau; ni chafodd lot o sylw, ond roedd yna 400 o bobl yno yn sefyll yn gadarn, ochr yn ochr â ffoaduriaid, pobl o wledydd eraill, a phawb sydd wedi dod i orllewin Cymru.
Fe welais i hynny, ac unwaith eto fe allaf gadarnhau ei bod yn bwysig dros ben, achos rwyf i wedi clywed pobl yn sôn am hyn. Roeddwn i yn Llanelli—finnau a chithau, wrth gwrs—yr wythnos diwethaf, yn clywed pryderon pobl fanna, a chlywais i’r un peth yn Abertawe. Mae’n bwysig dros ben bod yna gadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd y bobl sydd yma nawr yn gallu aros. Mae rhai yn dadlau eu bod yn gallu aros yn barod, ond nid ydym ni wedi clywed hynny o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n gwneud y penderfyniadau hyn. Nid rhywbeth i drafod yw hyn; mae hyn yn rhywbeth sydd eisiau ei sicrhau nawr er mwyn sicrhau bod pobl yn dal i feddwl bod yna groeso iddyn nhw yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Nid felly mae pethau ar hyn o bryd, ac mae fe a finnau, wrth gwrs, wedi clywed tystiolaeth ynglŷn â hynny dros yr wythnos diwethaf.
Treuliais ran o fore ddoe yn ceisio cael gwared ar slogan hiliol oddi ar ddrws ffrynt rhywun, ac, yn anffodus, nid yw’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn anghyffredin. Beth all y Llywodraeth ei wneud yn eich barn chi i geisio lleddfu’r lefelau casineb y mae’n ymddangos bod y bleidlais Brexit hon wedi eu rhyddhau, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cael cydweithrediad llawn awdurdodau lleol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol i sicrhau y rhoddir taw ar y pethau hyn ac yr ystyrir eu bod yn annerbyniol?
Fy sylw yr wythnos diwethaf yn eithaf syml oedd hyn: mae gan bob gwlad eu hynfydion ac mae gan Gymru ei chyfran, yn anffodus. Roeddwn i’n rhy hael â’r bobl hyn yn y ffordd y gwnes i eu disgrifio rwy’n credu erbyn hyn, ond dyna ni; mae'n rhaid i mi fod yn ddiplomyddol yn fy swydd yn y modd gorau y gallaf. Y gwirionedd yw i mi glywed pobl a oedd yn ofnus iawn yr wythnos diwethaf—pobl a oedd wedi byw yn y DU ers cenedlaethau, a dweud y gwir, ond, oherwydd eu bod yn edrych yn wahanol, roedd hynny'n golygu eu bod nhw’n darged. Rydym ni wedi bod mewn cysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu i wneud yn siŵr bod yr heddlu yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd. Mae'r heddlu yn sicr yn awyddus iawn i bwysleisio'r ffaith y dylai pobl eu hysbysu am droseddau casineb; byddant yn cymryd camau wedyn, wrth gwrs. Ac mae'n rhaid lledaenu’r neges honno na fyddwn yn derbyn y math hwn o gasineb yn ein cymdeithas; ni allwn fod yn oddefgar o anoddefgarwch. Mae’r hyn sydd wedi ei adael allan o'r botel yn mynd i fod yn anodd ei reoli, ond mae'n rhaid ei reoli er lles ein cymdeithas.
Diolch, Brif Weinidog.