Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Treuliais ran o fore ddoe yn ceisio cael gwared ar slogan hiliol oddi ar ddrws ffrynt rhywun, ac, yn anffodus, nid yw’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn anghyffredin. Beth all y Llywodraeth ei wneud yn eich barn chi i geisio lleddfu’r lefelau casineb y mae’n ymddangos bod y bleidlais Brexit hon wedi eu rhyddhau, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cael cydweithrediad llawn awdurdodau lleol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol i sicrhau y rhoddir taw ar y pethau hyn ac yr ystyrir eu bod yn annerbyniol?