5. 4. Cynigion i Gytuno ar Aelodaeth Pwyllgorau

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:53, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Nid nawr. Rwyf wedi ymateb i'ch cwestiwn. Mae ymateb Plaid Cymru i hyn wedi bod yn glir iawn. Rydym eisiau gweld cydbwysedd gwleidyddol ar draws y strwythur pwyllgorau. Credwn ei bod yn bwysig iawn fod Cadeiryddion o'r gwrthbleidiau yn gyfrifol am bwyllgorau hanfodol megis cyllid a chyfrifon cyhoeddus, ac rydym yn credu ei bod yr un mor bwysig bod gennym drefniadau ar bwyllgorau polisi a deddfwriaethol sydd mewn gwirionedd yn cyflawni cyfraith Cymru y gellir ei gweithredu. Yn y pen draw, mae'r pwyllgorau yno i graffu ac i ymgymryd â sawl cam o ddeddfwriaeth, ond mae'r holl ddeddfwriaeth yn dod yn ôl i'r Cynulliad hwn, lle mae gennym swyddogaeth i'w chyflawni. Os byddwn yn uno fel gwrthblaid, gallwn bleidleisio a goresgyn y Llywodraeth ar yr holl ddeddfwriaeth, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hynny os gallwn ddod i gytundeb ar y materion hynny. Ond yr hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw bod gennym bwyllgorau ymarferol a Chadeiryddion da, effeithiol, a etholwyd yn annibynnol am y tro cyntaf. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer cryfhau'r Cynulliad hwn fel senedd wirioneddol, ac yn yr ysbryd hwnnw y mae Plaid Cymru wedi cytuno i'r trefniadau hyn. Ydy, mae hefyd yn golygu bod yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel 'cadeiryddiaeth pwyllgorau dethol'—y byddwn i'n eu disgrifio'n hytrach fel cadeiryddiaethau pwysig, gwleidyddol yn nwylo'r gwrthbleidiau, a chredaf fod hynny’n bwysig hefyd, yn enwedig pan fyddwn yn craffu ar gyllid ac iechyd. Mae'r rhain i gyd yn bethau a fydd yn adfywio, rwyf yn gobeithio, y ffordd y mae ein pwyllgorau yn gweithio yn y Cynulliad. Am y rheswm hwnnw, gofynnaf i'r Cynulliad eu cefnogi er mwyn i ni allu symud ymlaen â'n gwaith pwyllgor.