– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Yr eitem nesaf felly ar yr agenda yw’r cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau. Mae 13 cynnig o dan yr eitem hon a byddant yn cael eu trafod gyda’i gilydd. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion—Simon Thomas.
Cynnig NDM6061 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin David (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Cynnig NDM6062 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Jayne Bryant (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru) a David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Cynnig NDM6063 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur Cymru), Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Cynnig NDM6064 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur Cymru), Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Cynnig NDM6065 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cynnig NDM6066 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jayne Bryant (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Cynnig NDM6067 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.
Cynnig NDM6069 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyllid.
Cynnig NDM6071 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Cynnig NDM6072 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. John Griffiths (Llafur Cymru) ar ran Jayne Bryant (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) ar ran Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) ar ran David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn eilyddion ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynnig NDM6073 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Jayne Bryant (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Mike Hedges (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ac
2. Ann Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Rwy’n galw ar Mark Reckless i siarad.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn deall nad oes neb wedi gwrthwynebu erioed o'r blaen, yn hanes y Cynulliad i sefydliad y pwyllgorau. Fodd bynnag, nid yw UKIP dan ddyled y consensws blaenorol hwnnw. Rydym yn bwriadu pleidleisio heddiw yn erbyn sefydliad y pwyllgorau polisi a deddfwriaethol ar y sail y cytunwyd arno gan y rheolwyr busnes eraill. Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw nad yw cydraddoldeb, 4: 4, yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Dywedodd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes wrthym i ddechrau nad oedd yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Beth newidiodd ynglŷn â hynny— [Torri ar draws.] Rwyf yn ôl. Ar hynny, nid oes dim wedi newid.
Fodd bynnag, tarodd y pleidiau eraill fargen â Llafur i ildio ar y pwynt hwnnw yn gyfnewid am gadeiryddiaeth pwyllgorau dethol, yn enwedig o ran Plaid, sy'n cadeirio nid yn unig y Pwyllgor Cyllid ond dau bwyllgor polisi a deddfwriaethol. Oherwydd hynny, ni fydd y gwrthbleidiau cyfunol yn gallu diwygio Biliau yn erbyn y Llywodraeth. Mae buddugoliaeth wych Leanne Wood yn y Rhondda, a wnaeth leihau Llafur i ddim ond 29 yn erbyn 30 o Aelodau gwrthbleidiau, a gan nad oes grŵp Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad erbyn hyn, a'r Aelod Democratiaid Rhyddfrydol dim ond â'r hawl i gael un lle ar bwyllgor pe byddai hi'n dymuno ei dderbyn, mae hynny'n newid sylweddol iawn yn yr hyn yw'r Cynulliad hwn oherwydd na allwn ddiwygio deddfwriaeth yn y pwyllgor pe byddai'r gwrthbleidiau yn unedig ar unrhyw ffordd benodol o weithredu yn erbyn y Llywodraeth. Mae hynny wedi ei roi i ffwrdd, byddwn i'n haeru, yn gyfnewid am sawl cadeiryddiaeth ddethol.
Ni fydd UKIP yn rhan o'r cytundeb hwnnw. Byddwn, fodd bynnag, yn trin y trefniadau y cytunwyd arnynt gan eraill gyda pharch. Byddwn yn cadeirio ein pwyllgor ni mewn ffordd ystyriol ar sail y dystiolaeth a byddwn yn cyfrannu ym mhob pwyllgor hyd eithaf ein gallu. Diolch.
Nodaf ar y diwedd yn y fan yna bod UKIP yn gwrthwynebu aelodaeth y pwyllgorau, ond yn derbyn cadeiryddiaeth pwyllgor, sydd wedi bod yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae'r ffaith—mae'n rhaid bod pob Aelod yn gwybod hyn—bod gennym Gynulliad â 60 o Aelodau, 29 o'r Llywodraeth a 31 o'r gwrthbleidiau, yn golygu nad ydych yn gallu dyblygu 29 a 31 ar bwyllgorau o wyth. Mae'n rhaid i chi fynd i system o'r enw D'Hondt. Gwnaethom guro D'Hondt yr wythnos diwethaf yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg, ond nid wyf yn credu ein bod eisiau sôn am hynny. Byddai D'Hondt wedi golygu na fyddai gan UKIP, mewn gwirionedd, aelod ar bob pwyllgor. Byddai wedi golygu, mewn gwirionedd, y byddai UKIP yn aml heb aelod ar bwyllgorau. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf siŵr, fe wnaf ildio.
Ni fyddai D'Hondt wedi golygu dim byd o'r fath. Hyd yn oed ar bwyllgor o saith, byddai UKIP wedi cael un aelod yn ôl D'Hondt.
Rydych yn syml yn anghywir. Byddai gennych 0.7 aelod. Dyna beth fyddai D'Hondt wedi ei gyfrifo i chi. Ar bwyllgor llai, ni fyddai gennych aelod—cyfrifon cyhoeddus neu gyllid er enghraifft, lle y mae gennych aelodau arnynt.
A wnaiff yr Aelod ildio eto?
Nid nawr. Rwyf wedi ymateb i'ch cwestiwn. Mae ymateb Plaid Cymru i hyn wedi bod yn glir iawn. Rydym eisiau gweld cydbwysedd gwleidyddol ar draws y strwythur pwyllgorau. Credwn ei bod yn bwysig iawn fod Cadeiryddion o'r gwrthbleidiau yn gyfrifol am bwyllgorau hanfodol megis cyllid a chyfrifon cyhoeddus, ac rydym yn credu ei bod yr un mor bwysig bod gennym drefniadau ar bwyllgorau polisi a deddfwriaethol sydd mewn gwirionedd yn cyflawni cyfraith Cymru y gellir ei gweithredu. Yn y pen draw, mae'r pwyllgorau yno i graffu ac i ymgymryd â sawl cam o ddeddfwriaeth, ond mae'r holl ddeddfwriaeth yn dod yn ôl i'r Cynulliad hwn, lle mae gennym swyddogaeth i'w chyflawni. Os byddwn yn uno fel gwrthblaid, gallwn bleidleisio a goresgyn y Llywodraeth ar yr holl ddeddfwriaeth, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hynny os gallwn ddod i gytundeb ar y materion hynny. Ond yr hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw bod gennym bwyllgorau ymarferol a Chadeiryddion da, effeithiol, a etholwyd yn annibynnol am y tro cyntaf. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer cryfhau'r Cynulliad hwn fel senedd wirioneddol, ac yn yr ysbryd hwnnw y mae Plaid Cymru wedi cytuno i'r trefniadau hyn. Ydy, mae hefyd yn golygu bod yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel 'cadeiryddiaeth pwyllgorau dethol'—y byddwn i'n eu disgrifio'n hytrach fel cadeiryddiaethau pwysig, gwleidyddol yn nwylo'r gwrthbleidiau, a chredaf fod hynny’n bwysig hefyd, yn enwedig pan fyddwn yn craffu ar gyllid ac iechyd. Mae'r rhain i gyd yn bethau a fydd yn adfywio, rwyf yn gobeithio, y ffordd y mae ein pwyllgorau yn gweithio yn y Cynulliad. Am y rheswm hwnnw, gofynnaf i'r Cynulliad eu cefnogi er mwyn i ni allu symud ymlaen â'n gwaith pwyllgor.
Rwy’n cynnig felly fod y pleidleisio ar y cynigion i ethol Aelodau i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth yn cael eu grwpio, os nad oes unrhyw wrthwynebiad i hynny. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynigion i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Gohiriaf y bleidlais, felly, ar y cynigion yma tan y cyfnod pleidleisio.
Rwy’n symud yn awr at y cynigion i ethol Aelodau i’r chwe phwyllgor arbenigol arall. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy’n cynnig bod y pleidleisiau ar y cynigion i ethol yr Aelodau i’r chwe phwyllgor yma yn cael eu grwpio. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes gwrthwynebiad, fe dderbynnir y cynigion yma yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.