Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch. Y cefndir i'r datganiad hwn yma heddiw, rwy’n credu, yw ymrwymiad maniffesto a wnaeth y Prif Weinidog ym mis Ebrill. Ond, pan gyhoeddodd y tasglu hwn, dywedodd ei fod yn cael ei wneud, ac rwy’n dyfynnu:
'i herio'r pesimistiaeth di-baid a glywn gan Blaid Cymru... yn y Cymoedd. I wrando arnynt, ni fyddech yn meddwl bod dim byd byth yn digwydd yma. Wel, ein gwaith ni yw eu cywiro nhw'.
Ond, rwy'n meddwl bod hyn yn llai o fater o’n cywiro ni nag yn fater o siarad â phobl yr ardal a cheisio eu grymuso nhw, a'u cymunedau, i wneud penderfyniadau dros eu bywydau eu hunain. Sut yr ydym ni’n gwybod hyn? Fel yr ydych eisoes wedi’i ddweud, Weinidog, mae oherwydd canlyniad y refferendwm. Er bod biliynau o bunnoedd o arian Ewropeaidd yn llifo i mewn i'r Cymoedd, roedd llawer o bobl yn edrych o'u cwmpas ac yn gofyn a oedd eu bywydau wedi cael eu gwella o ddifrif.
Wrth gwrs, gallwn bob amser bwyntio at brosiectau yma ac acw, ond a yw’r holl arian hwnnw wedi ymdrin yn derfynol ag etifeddiaeth ôl-ddiwydiannu? A yw wedi rhoi diwedd ar ddiweithdra uchel a phoblogaeth sâl? A yw wedi darparu gwir gyfle economaidd a llai o droseddu a materion gwrth-gymdeithasol eraill? Yr ateb yw nac ydy. Rydym yn dal i wynebu’r materion hyn, fel yr oeddem 20, 30 neu 40 mlynedd—neu hanner canrif—yn ôl, ac nid yw'n ddigon da.
Felly, y peth cyntaf y mae angen i’r tasglu hwn fod yn meddwl amdano, yn fy marn i, yw canlyniadau—sut y byddwch chi’n mesur llwyddiant eich ymdrechion. Beth am ddechrau â’r cwestiwn sylfaenol: sut y mae’r polisi neu’r fenter hon neu’r llall wedi gwella bywydau pobl y Cymoedd? Mae'n ymddangos i mi mai dyna’r cwestiwn mwyaf elfennol, ond mae'n debyg y cwestiwn pwysicaf yma. Felly, hoffwn i’r Gweinidog ddweud sut y bydd yn mesur canlyniadau. Hoffwn hefyd wybod a fydd y meini prawf mesur yn cael eu pennu’n annibynnol yn hytrach na gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hynny’n debyg iawn i farcio eich gwaith eich hun, ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, nid yw pobl yn y Cymoedd wir yn credu yn hynny ar hyn o bryd.
Hoffwn wybod hefyd sut yr ydych yn bwriadu dechrau’r sgwrs hon â phobl. Rydym yn sôn am ymgysylltiad ar ôl Brexit a phobl yn flin gyda gwleidyddion. Sut yr ydych eisiau siarad â phobl ar wahân i'r bobl arferol? Mae'n rhaid inni ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau os ydynt nawr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo bod gwleidyddion yn bell oddi wrthynt. Sut yr ydych yn mynd i wneud yn siŵr bod hynny'n newid o ran y dyfodol?
Rwy'n falch bod y cylch gorchwyl yn cyfeirio at ddarparu cyfle yn hytrach na brwydro yn erbyn tlodi. Rydym wedi cael yr olaf cyhyd ag y gallaf gofio bod yn Aelod Cynulliad, ac nid yw wedi gweithio. Rwy'n gadarn o'r farn, os ydym wir eisiau creu swyddi, y bydd llawer o'r materion eraill yn edrych ar ôl eu hunain os ydym yn canolbwyntio ar ragolygon economaidd pobl yn yr ardaloedd hyn. Felly, hoffwn ddeall—. Rwy’n gwybod nad dim ond yn y de y mae Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli, ond os ydych yn mynd i fod yn lansio'r tasglu newydd, sut, felly, y mae’n cyd-fynd â chynlluniau fel hwn a mentrau gwrth-dlodi eraill a all fod yn cydblethu neu'n gwrthdaro â’r hyn yr ydych yn ei wneud yn y fenter newydd hon?
Rwy’n meddwl, yn hytrach na cheisio—i fynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar y dechrau—saethu’r negesydd, bod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl arni hi ei hun, oherwydd nid Plaid Cymru yr unig lais sy’n dweud nad oes digon yn cael ei wneud. Cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ym mis Mehefin y llynedd, yn dweud, yn sgil diffyg cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lleihau tlodi, yn enwedig o ystyried ei hymrwymiad hirdymor i fuddsoddi yn y mater, bod pryder dwfn yno. Felly, mae angen inni ystyried, yn hytrach na rhoi bai ar bobl, trin symptomau tlodi ac ymdrin ag achosion gwaelodol tlodi.
Hoffwn wybod, yn sgil y refferendwm, fel y soniasoch am Brexit ar y dechrau, a yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu effeithiolrwydd yr arian Ewropeaidd sydd wedi ei wario yn ardal Cymoedd y de. Wedi'r cyfan, os mai darparwr cyllid ydyw, yn hytrach na chyflawnwr y dibenion a fwriadwyd gan y cyllid, dim ond rhywfaint o’r bai all yr UE ei ysgwyddo os nad yw cyllid yn arwain at welliant sylweddol a mesuradwy. Neu, i’w roi mewn ffordd arall, wnaiff palmentydd newydd neu rodfa yng nghanol tref ddim darparu swyddi ynddynt eu hunain—yr hyn sy’n dod i’r dref ac o’i chwmpas sy'n cyfrif.
Yn olaf, hoffwn wybod beth fydd y tasglu hwn yn ei wneud i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol gwael. Yn y blaid hon, rydym wedi gwthio am ysgolion bro â chysylltiadau cryf â theuluoedd a'r gymuned ehangach, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei haddewid maniffesto ei hun i dreialu model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, gan ddarparu gwasanaethau estynedig o 8 a.m. tan 6 p.m., gyda gofal plant, cymorth rhianta, dysgu teuluol a mynediad cymunedol i gyfleusterau wedi’u hadeiladu o amgylch y diwrnod ysgol. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol i gynnig o'r fath, ac rydym hefyd wedi addo troi ysgolion yn ganolfannau cymunedol fel y gallant fod yn agored ar benwythnosau, gallant fod yn agored i'r gymuned, yn hytrach na dim ond ar agor ar amseroedd ysgol, ac yna gallwn ymgysylltu ar sail ehangach o ran dileu tlodi yng Nghymru. Nid wyf yn anghytuno â sefydlu'r tasglu hwn, ond nid wyf am ychwaith iddo fod yn ddim mwy na darn arall o waith sy'n eistedd ar silff lyfrau yn rhywle ac yn cael ei anghofio; rwyf am i bobl yn ardaloedd y Cymoedd sy'n teimlo, yn aml, wedi’u difreinio a'u hymddieithrio ddod yn rhan o'r drafodaeth yn y dyfodol fel y gallwn wneud i ddatganoli weithio ar eu cyfer nhw ac fel y gallwn wneud i ddyfodol Cymru fod yn rhan o'u sgwrs nhw, nid dim ond ein sgwrs ni fel gwleidyddion.