Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei hymateb, ac rwy’n cytuno â llawer ohono. Rwy’n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch am ganlyniadau, yn hytrach na dim ond cyfrif yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rwy’n meddwl, yn llawer rhy aml yn y Llywodraeth, bod temtasiwn wedi bod i gyfrif yr holl gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd, ac yna datgan bod hynny’n llwyddiant mawr oherwydd ein bod wedi gwneud llawer. Beth sy'n bwysig mewn gwirionedd yw effaith y camau gweithredu hynny ar y bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli. Yn sicr, rwy’n cytuno’n fawr iawn hefyd y byddai'n ddefnyddiol i lawer o'r canlyniadau hyn gael eu diffinio, os mynnwch chi, nid dim ond gan y Llywodraeth, ond gan eraill yn ogystal, sydd â golwg fwy annibynnol ar hyn.
Pan wyf yn edrych ar y materion hyn, rwy’n gwneud mwy nag edrych ar gyfres o ystadegau; rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi'r bywydau y mae pobl yn eu byw a'r effaith nad yw ein polisïau ni weithiau yn ei chael ar y bobl hynny, a'r angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, roeddwn yn glir iawn, iawn, rwy’n gobeithio, wrth wneud y datganiad hwn yr hoffem weld dileu tlodi yn sbardun allweddol i’r hyn yr ydym yn ei wneud, nid dim ond yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud wrth eistedd yma ym Mae Caerdydd, neu eistedd mewn gwahanol dasgluoedd neu bwyllgorau yn rhywle arall—ym Mharc Cathays, neu ble bynnag yr ydym yn digwydd bod—ond ein bod yn edrych ar yr holl gamau a gymerwn fel Llywodraeth, lle mae’r Llywodraeth yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â phobl at ei gilydd, a’n bod yn sefydlu dileu tlodi yng Nghymoedd y de fel sbardun i bolisi, ac mai dyna'r meincnod yr ydym yn ei ddefnyddio ac yn ei wneud ar gyfer pob ymyriad polisi arall.
Y rheswm pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn ymuno â mi ar y tasglu hwn yw i ganolbwyntio ar y materion economaidd ehangach hynny ac ar sut y gallwn sicrhau bod gennym y cyfalaf dynol a’n bod yn buddsoddi yn ein cyfalaf dynol i sicrhau ein bod ni yn bodloni’r amcanion hynny. Byddaf yn sicr yn cynnwys fy nghydweithwyr o bob rhan arall o’r Llywodraeth, yn ôl y gofyn ac yn ôl yr angen, ac yn canfod yr arbenigedd sydd ei angen arnom o fannau eraill y tu allan i’r Llywodraeth. Ond, rwyf eisiau sicrhau nad yw'r tasglu hwn, yn eich geiriau chi, yn rhywbeth sy'n eistedd ar silffoedd, lle bynnag y maent yn digwydd bod, ond ei fod yn dasglu sy'n dod â phobl at ei gilydd i gyflawni canlyniadau go iawn, ac mae gennym y cyfle yma i wneud hynny.
Nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno’n llwyr â chi yn y feirniadaeth a wnaethoch am y buddsoddiadau a wnaethpwyd gan y gwahanol raglenni Ewropeaidd. Rwy'n meddwl eu bod wedi cael effaith wirioneddol iawn, ac rwyf wedi gweld yn fy etholaeth fy hun y newidiadau sydd wedi'u gwneud, o adeiladu ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd i adnewyddu Glynebwy, os mynnwch, yn safle’r Gweithfeydd—y buddsoddiad yn y rheilffordd, y buddsoddiad yn y coleg, a'r buddsoddiad mewn prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru, sy’n cael effaith wirioneddol iawn ar fywydau pobl. Yr hyn yr hoffwn i inni ei wneud yw canolbwyntio ar sylwedd ac nid dim ond PR, canolbwyntio ar wneud newidiadau go iawn, ac nid dim ond newidiadau cosmetig, a chanolbwyntio ar newid cyfleoedd bywyd i bobl. Mae hwnnw'n uchelgais gwahanol iawn, ac yn weledigaeth wahanol iawn, efallai, i’r hyn yr ydym wedi ei weld ar wahanol adegau yn y gorffennol.
Sonioch chi am y cynlluniau gwrthdlodi sydd eisoes yn bodoli, a byddwn yn dwyn y cynlluniau hynny ynghyd a byddwn yn adolygu sut y mae’r cynlluniau hynny’n gweithio heddiw a sut y byddant yn gweithio yn y dyfodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar rai o'r materion hynny, ac rwy’n disgwyl ymuno ag ef i adolygu sut y mae rhai o'r rhaglenni gwrthdlodi hynny’n gweithio.
Gadewch imi orffen ar y pwynt hwn: roeddech yn sôn am sut yr ydym yn ymgysylltu fel gwleidyddion a Gweinidogion, ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir i ganolbwyntio ar hynny ac ar ein methiant, weithiau, i gyfleu ein negeseuon. Roeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn cyn y toriad, fel y gallwn ddechrau ar y gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd. Nid wyf yn gweld hyn fel dim ond ymarfer ymgynghori, fel efallai yr ydym wedi ei wneud ar adegau eraill yn y gorffennol; rwy'n gweld hyn fel ymgais i ysgogi trafodaeth gyfoethog a manwl a gonest â phobl—y bobl yr ydym ill dau’n eu cynrychioli mewn gwahanol rannau o Gymoedd y De. Rwy’n bwriadu gwrando'n astud ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, oherwydd pan fydd pobl yn siarad â ni—ac rydym ni i gyd wedi cael sgyrsiau ar gerrig drysau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf—mae llawer o bobl wedi siarad â mi am yr amgylchedd lle maent yn byw, boed yn sbwriel ar strydoedd Glynebwy neu’n chwyn yn tyfu yn strydoedd Tredegar, neu’n dipio anghyfreithlon uwchben Nantyglo. Ac mae'r rhain yn bethau sy'n bwysig i bobl; mae'n effeithio ar eu lle nhw, mae'n effeithio ar eu canfyddiad nhw o bwy ydynt ac maent yn bethau yr hoffem ymdrin â hwy. Felly, ie, byddwn yn ateb yr heriau mawr sy'n ein hwynebu, ond mae angen inni hefyd ymdrin â'r mannau lle’r ydym yn byw, a fyddwn i byth yn tanbrisio pwysigrwydd hynny i bobl, ble bynnag yr ydym yn digwydd byw yn y Cymoedd.