7. 6. Datganiad: Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:56, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae un o bob wyth o blant yng Nghymru’n byw mewn cartrefi di-waith hirdymor. Mae llawer o'r plant hyn yn byw yng Nghymoedd y de-ddwyrain. Mae ymchwil yn dangos nad yw plant sy'n byw gyda rhieni di-waith hirdymor yn gwneud cystal yn yr ysgol a’u bod yn wynebu risg uwch o fod yn ddi-waith yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant o deuluoedd mwy cefnog yn mwynhau gwell iechyd ac yn meddu ar sgiliau uwch na phlant o deuluoedd tlotach. Felly, mae unrhyw strategaeth i dorri cylch diweithdra, iechyd a lles gwael, tlodi a diffyg cyrhaeddiad addysgol yn rhywbeth i'w groesawu. O ystyried y ffocws ar hyrwyddo datblygiad economaidd ac adfywio, mae'n hanfodol bod y gymuned fusnes yn ymwneud yn llawn â'r tasglu hwn. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa drafodaeth y mae wedi'i chael â'r sector preifat am eu mewnbwn nhw i'r tasglu hwn?

Yn yr un modd, bydd cydweithio â’r trydydd sector, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn bwysig yn yr achos hwn. Pa weithdrefn ymgynghori fydd y tasglu’n ei mabwysiadu gyda'r grwpiau hyn?

Mae nodau'r tasglu hwn yn croesi sawl ffin weinidogol. Pa dargedau ydych chi’n bwriadu eu gosod, a sut y byddwch chi’n monitro cynnydd ar draws y Llywodraeth wrth gyrraedd y targedau hyn? Sut y bydd y tasglu’n cydlynu ei waith ar y cyd â strategaethau presennol fel yr agenda sgiliau yng Nghymru?

Yn olaf, Weinidog, rwy’n gwybod eich bod yn bwriadu cadeirio'r tasglu hwn. A gaf i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i fabwysiadu cadeirydd annibynnol â phrofiad busnes o'r sector preifat i ddatblygu'r fenter hon? Soniasoch am gwpl o ardaloedd yng Nghymoedd y de-ddwyrain. Dylai'r Gweinidog wybod fy mod yn teithio bron bob wythnos i’r Cymoedd hynny, ac nid dim ond o ran swyddi y mae’r ardaloedd hyn wedi’u hamddifadu, ond ers i’r glo a’r dur fynd—ac mae Llywodraethau Llafur parhaus wedi bod yn rhedeg y wlad hon. Felly, does dim byd wedi ei wneud hyd yn hyn. Mae potensial mawr, Weinidog, os dechreuwch feddwl am rai trefi marchnad fel Tredegar, Glynebwy, Merthyr—roeddent yn ardaloedd a oedd yn ffynnu yn yr 1970au a'r 1980au, a, rhywsut, mae adeiladau adfeiliedig yno yn awr. Felly, a ydych wedi meddwl am y peth—a ellir, wyddoch chi, adfywio’r siopau hyn sydd wedi cau fel y gallant godi o’r newydd yn y rhan hon o'r byd gydag arian newydd a phobl newydd i fuddsoddi ynddo i wneud yn siŵr bod ein Cymoedd yn dod i'w gogoniant llawn, fel yr oeddent brin 30 neu 40 mlynedd yn ôl? Diolch.