Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Byddwn yn awgrymu’n ysgafn iawn i'r Aelod efallai y dylai ddarllen y datganiad cyn iddo ysgrifennu ei gyfraniad ato. Pe baech wedi darllen fy natganiad neu wedi gwrando arno, byddech wedi gwybod y byddwn yn ymgynghori â'r holl wahanol rannau o'r gymuned yr ydych wedi’u rhestru yn eich cwestiynau. A dewch imi ddweud hyn wrthych: mae'n eithaf digrif gweld unrhyw lefarydd y Ceidwadwyr yn dod yma i’r Siambr hon ac yn gwasgu eu dwylo ac yn crio eu dagrau ffug am y tlodi y maent wedi ei greu ar raddfa ddiwydiannol yn y cymunedau hyn.
Gadewch imi ddweud hyn wrth lefarydd y Ceidwadwyr: mae effaith diwygiadau lles ar gymunedau i fyny ac i lawr ac ar hyd a lled Cymoedd y de yn gwbl ryfeddol. Rwyf yn gweld, yn fy etholaeth fy hun, colled o tua £60 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed a thlotaf yn y gymuned honno. Rydym yn gweld hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Gallwch ysgwyd eich pen, ond mae'n hollol wir ac rydym yn gweld effaith hynny. Rydym yn gweld yr effaith ar y teuluoedd hynny, ar y plant y buodd yn crio ei ddagrau ffug amdanynt, ac rydym hefyd yn gweld yr effaith, wedyn, ar fusnesau lleol a chymunedau lleol. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny heddiw, ac mae’r gwaith hwn wedi ei gynllunio i liniaru'r anawsterau a'r problemau, yr argyfwng a'r anhrefn a achoswyd gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
Gadewch imi ddweud hyn: byddwn, fel yr wyf wedi’i ddweud wrth ateb Bethan Jenkins, yn sefydlu targedau clir iawn. Yn amlwg, mae'r Gweinidog sgiliau ar y tasglu, felly bydd hi’n ymgysylltu'n llawn â'r agenda hon. Ond, rwy'n meddwl, os yw’r Ceidwadwyr yn dymuno cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith sy'n cael ei wneud, mae angen iddynt ddechrau drwy gydnabod lle'r ydym heddiw a'r rhan y maent wedi’i chwarae o ran creu’r dirywiad economaidd sy'n effeithio ar bobl a chymunedau Cymoedd y de.