Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Ferthyr Tudful am wneud y pwyntiau hynny. Rwy'n meddwl y bydd pobl Cymoedd y de yn ffurfio eu barn eu hunain am yr Aelodau hynny sy’n ymddangos mewn ymgyrchoedd etholiadol yn addo’r ddaear ac yna pan fo’n amser gwneud y gwaith, yn diflannu i ffwrdd, boed ar wyliau neu mewn man arall, ond beth am adael i bobl eraill ffurfio barn—[Torri ar draws.] O, dyma nhw—mae’r teledu’n gweithio yn yr ystafell de, yn amlwg. [Chwerthin.]
Mae’r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn o ran twristiaeth. Mae fy mab bach wedi mwynhau ei daith ar y rheilffordd fynydd ym Merthyr ac mae'n bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni, weithiau, yn cydnabod popeth sydd gan y Cymoedd i'w gynnig. Rydym yn byw mewn rhan o'r byd sy'n hollol ysblennydd yn llygaid unrhyw un. Hefyd yn etholaeth fy ffrind, wrth gwrs, mae gennych y ganolfan beicio mynydd wych; rwy’n gyrru heibio iddi a bob amser yn cael fy nhemtio i fynd i mewn ar fy meic—fe wna’i hynny rywbryd yn ystod yr haf. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog dros y ffordd ym Mlaenafon lle mae’r Pwll Mawr yn adrodd hanes y chwyldro diwydiannol. Rwy’n meddwl, weithiau, nad ydym yn deall yn llawn nac yn cydnabod ein hunain mai Blaenau'r Cymoedd oedd y gymuned ddiwydiannol gyntaf yn y byd, ein bod ni wedi arwain datblygiad haearn a glo, a’n bod ni, drwy wneud hynny, wedi creu cymuned a diwylliant sy'n unigryw ac sy'n rhywbeth sydd, yn ogystal ag allforio prosesau economaidd a diwydiannol gwych i'r byd, hefyd wedi allforio diwylliant i'r byd yn ogystal. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fod yn falch ohono ac mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w hyrwyddo, yn enwedig heddiw, wrth gwrs, a ninnau’n dathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn 68 oed. Pan ddywedodd Aneurin Bevan wrth y Senedd ei fod yn mynd i 'Dredegareiddio' y Deyrnas Unedig, yn sicr fe wnaeth hynny ac fe greodd rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch iawn ohono ac, ar yr ochr hon i'r Siambr, y byddwn bob amser yn ei feithrin a bob amser yn ei amddiffyn.