Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
[Yn parhau.]—wedi gadael, a heb hyd yn oed drafferthu aros yn y Siambr hon am y drafodaeth am union ddyfodol y Cymoedd hynny y maent yn ceisio eu cynrychioli.
Ond, a gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Does dim amheuaeth y bydd y fenter ôl-Brexit yn awr yn bwysicach fyth i gymunedau Cymoedd y de, fel yr ydym wedi’i ddweud. Ac nid wyf yn mynd i sefyll yma ac ailadrodd popeth sydd wedi cael ei ddweud. Rwy’n cytuno â llawer o'r hyn y mae Bethan Jenkins wedi ei ddweud ac, yn amlwg, yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud. Mae cymaint i’w wneud; mae’n agenda enfawr ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am yr hyn y mae'n ei osod allan.
Felly, hoffwn ganolbwyntio ar ddim ond un maes penodol y credaf ei fod wedi’i danddefnyddio’n ddifrifol yn y Cymoedd, sef hyrwyddo ein hamgylchedd a’n twristiaeth, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol. Rwy'n falch iawn, felly, bod hynny'n elfen allweddol o agenda’r tasglu. Yn aml, rydym ni’n meddwl bod Cymru'n dibynnu'n drwm ar ei harddwch naturiol pan ydym yn edrych ar ddatblygu twristiaeth, ac mae hynny’n sicr yn wir yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, sydd wedi’i bendithio ag ardaloedd o harddwch naturiol. Ond, wrth gwrs, mae'n eithriadol o gyfoethog o ran ei threftadaeth diwydiannol ac undebau llafur. Mae gennym, er enghraifft, y Tŷ Weindio, Canolfan Treftadaeth Ddiwydiannol Cyfarthfa, Canolfan Treftadaeth Haearn Ynysfach, ac, fel y gwyddom, roedd Merthyr yn ganolog i ddiwygio gwleidyddol a datblygiad undebaeth lafur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, lle mae uchelgais y tasglu’n sôn am hyrwyddo ein hamgylchedd a’n twristiaeth, y bydd hyn yn bendant yn cynnwys hanes ein diwydiant a’n hundebau llafur, a ddylai fod yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth, gan gydnabod bod hyrwyddo agweddau ar ein treftadaeth yn gallu chwarae rhan arwyddocaol o ran creu swyddi a chefnogi adfywio?