7. 6. Datganiad: Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:08, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno â'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud bod arnom angen ailfeddwl sylfaenol o ran strategaeth fuddsoddi, ond hefyd ynglŷn â gwydnwch hirdymor buddsoddi a throi'r peth ar ei ben fel ein bod ni’n gweld y buddsoddiad yn llifo i mewn i’r Cymoedd.

Ond hoffwn awgrymu dau beth. Un yw bod y metro, i mi, bob amser wedi bod yn fwy na’r metro fel y mae’n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Os ydym yn mynd i gael cysylltedd go iawn, rhaid iddo fod yn metro plws. Rhaid iddo fod yn bethau sy’n ymwneud â chysylltu’r cymunedau hynny na fydd byth ar gledrau ysgafn na chledrau trwm hen ffasiwn. Y bysiau cyflym iawn sy’n cysylltu cymunedau—nid dim ond i fyny ac i lawr, ond ar hyd a lled cymunedau; y tocynnau cyffredinol; a fforddiadwyedd yn ogystal.

Hoffwn hefyd ddweud bod angen inni ailfeddwl, i godi ar y syniad a gynigiwyd gan Adam Price yno, sut yr ydym nid yn unig yn cysylltu pobl fel y gallant deithio allan o'r Cymoedd, ond dod i mewn i'r Cymoedd, ac mae hynny'n golygu buddsoddi mewn busnesau bach a microfusnesau sydd wedi’u gwreiddio yn y Cymoedd hynny ac yna sut yr ydym yn rhoi’r buddsoddiad hirdymor hwnnw i’w tyfu a’u tyfu a’u tyfu nhw â gwreiddiau dwfn yn y Cymoedd hynny. Ers rhy hir, rydym wedi bod yn dweud wrth ein pobl ifanc, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, mae angen i chi symud allan.' Dewch inni wyrdroi hynny a dweud, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, gallwch aros yma a chael dyfodol ffyniannus.' Ond mae fy nghwestiwn i'r Gweinidog mor syml â hyn: a wnaiff yn siŵr, wrth wneud hynny, nad yw'n taflu'r babi allan gyda'r dŵr, gyda phethau fel Dechrau'n Deg, cynlluniau prentisiaeth—ond sut yr ydym yn mynd i gynnal y cyllid ar gyfer y rhain yn awr ar ôl ein penderfyniad yn y dyddiau diwethaf, nid wyf yn gwybod—gyda phethau fel y cysyniad Sony yno, yn dod ag ysgolion a phobl ifanc i mewn i'w dysgu am y diwydiannau digidol, wedi’i sbarduno gan y sector preifat i lawr ym Mhencoed—sut ydym ni’n adeiladu ar y mathau hynny o bethau, ac a fydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinwyr awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai yn fy ardaloedd i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf?