Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ie', 'ie' ac 'ie'. Rwy’n cytuno’n llwyr bod angen peidio â thaflu babanod allan gyda’r dŵr; mae hyn yn fater o adeiladu ar seiliau cadarn. Mae'r buddsoddiadau Dechrau'n Deg yr ydym wedi’u gwneud yn rhan allweddol o hynny. Rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith y mae Sony wedi'i wneud ym Mhen-coed ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n fodel gwych i’r hyn yr ydym am ei gyflawni yn y dyfodol. Un o seiliau athronyddol allweddol yr astudiaeth lleoliad ddwfn oedd y buddsoddiad mewn busnesau bach, busnesau lleol, yr economi leol ac nid dim ond dibynnu ar rai buddsoddiadau mawr yn unig, er ein bod yn cydnabod y gwaith y gall hynny ei gyflawni.
O ran y pwyntiau cyffredinol a wnewch am gludiant a'r metro, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae’r Cymoedd wedi mynd o'r gogledd i'r de erioed, ac mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn mynd o’r dwyrain i'r gorllewin hefyd a bod pobl yn gallu cael gwaith, cyfleoedd cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus ble bynnag y maent yn digwydd byw, ac mae hynny'n golygu cael system drafnidiaeth gadarn nad yw’n ddibynnol ar reilffyrdd yn unig, ond sy’n dibynnu ar y gydberthynas rhwng rheilffyrdd a bysiau a dulliau trafnidiaeth eraill i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar yr holl gyfleoedd a gwasanaethau sydd ar gael iddynt.