Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch, Gadeirydd.
Mae achosion o glefydau anifeiliaid yn ddinistriol i bawb dan sylw, a gallant gael canlyniadau eang a chostus ar gyfer anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, yr economi a'r amgylchedd. Mae sicrhau sefyllfa o barodrwydd ar gyfer ymlediad clefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, felly, yn flaenoriaeth. Mae’n rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am amheuaeth o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, megis clwy'r traed a'r genau neu’r tafod glas, o dan delerau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, er mwyn gallu ymchwilio i'r mater. Cafwyd 137 o adroddiadau o'r fath rhwng mis Ebrill 2015 a 20 Mehefin eleni.
Os bydd achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yn digwydd, nid yw’r costau sylweddol i'r Llywodraeth wedi eu cyllidebu ac maent yn cael eu hystyried fel rhwymedigaeth wrth gefn. Mae’r cyfrifoldeb polisi dros iechyd a lles anifeiliaid wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru er 2005; fodd bynnag, dim ond yn 2011 y cafodd y cyllidebau cysylltiedig eu datganoli. Byddai’r potensial ar gyfer costau trwm, heb eu cyllidebu, ar gyfer ymdrin ag achos o’r clefyd yn rhoi pwysau annisgwyl ar raglenni a gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Y mae, felly, yn hanfodol bod gweithgareddau gwyliadwriaeth a gwaith cynllunio wrth gefn yn cael eu gwneud gyda'r nod o atal, canfod, rheoli a dileu clefydau yn gyflym er mwyn lleihau'r effaith ar y diwydiant da byw, y gymuned wledig a'r economi ehangach.
Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn darparu'r systemau a'r strwythurau angenrheidiol i reoli a dileu achosion o glefydau anifeiliaid. Roedd Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau wrth gefn gael eu llunio ar gyfer clwy'r traed a'r genau, clefyd Newcastle a ffliw adar, y dylid eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd. Mae cynlluniau wrth gefn cadarn wedi bod ar waith gan Lywodraeth Cymru er 2003, ac maent yn cael eu profi'n rheolaidd mewn ymarferion a digwyddiadau clefydau. Mae 'Cynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Egsotig Anifeiliaid' yn nodi'r gweithdrefnau, y prosesau a’r strwythurau a fyddai'n cael eu defnyddio mewn achos o glefyd. Adolygir y cynllun yn flynyddol a chaiff ei ailgyhoeddi yn ôl yr angen. Mae wedi ei adolygu'n ddiweddar a chafodd ei ailgyhoeddi fis diwethaf. Mae adolygiadau o'r fath yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o ymarferion yn y DU ac yn lleol, yn ogystal â digwyddiadau amser-real. Defnyddiwyd cynlluniau wrth gefn ddiwethaf ar gyfer achosion o ffliw adar yn Lloegr a'r Alban yng nghanol 2015 ac yn gynnar yn 2016. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cynnal cynlluniau wrth gefn ac, yn ogystal, roedd yr ‘United Kingdom Contingency Plan for Exotic Notifiable Diseases of Animals’ yn darparu trosolwg strategol o'r strwythurau a'r systemau angenrheidiol i ymdrin ag achosion o glefyd yn y DU, gan ddangos sut y byddai'r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd mewn achosion o glefyd.
Mae canfod clefyd yn gynnar yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd. Trwy waith cynllunio hirdymor a thrwy fabwysiadu dull cydgysylltiedig o ddatblygu ein cynlluniau wrth gefn, gallwn helpu i greu'r Gymru iach, gydnerth a llewyrchus yr ydym yn ceisio ei chyflawni gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhelir gwaith gwyliadwriaeth ar sail Cymru a Lloegr gan APHA, ynghyd â chynghorwyr milfeddygol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn sganio'r sefyllfa fyd-eang o ran clefydau anifeiliaid i nodi unrhyw risgiau i'r DU. Mae gan Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU ddeddfwriaeth a strategaethau rheoli clefydau penodol ar gyfer ymdrin â chlefydau megis y tafod glas, y gynddaredd, Clwy'r Traed a'r Genau, clwy clasurol y moch a chlefydau ceffylau.
Mae’r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy a all effeithio ar rywogaethau anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys defaid, gwartheg, ceirw, geifr a chamelidau. Mae 26 math o feirws y tafod glas ac nid oes ganddo unrhyw oblygiadau ar gyfer iechyd pobl ac nid yw'n effeithio ar gig na chynhyrchion anifeiliaid eraill. Caiff feirws y Tafod Glas ei ledaenu’n bennaf gan wybed sy’n oedolion ac sydd wedi eu heintio yn brathu anifail sy’n agored i’r clefyd. Cyrhaeddodd y straen BTV8 y DU am y tro cyntaf yn ystod 2007 o dir mawr Ewrop, ac ni chafodd y DU ei datgan yn rhydd o’r clefyd tan 2011.
Mae BTV8 yn cylchredeg yn Ffrainc ar hyn o bryd gyda dros 288 o achosion wedi’u hadrodd erbyn 1 Gorffennaf. Mae Ffrainc yn parhau i gadarnhau achosion, a nodir yn bennaf o ganlyniad i waith gwyliadwriaeth. Yr agwedd allweddol ar y bygythiad i'r DU yw lleoliad yr achosion, sydd ar hyn o bryd yn rhanbarthau'r canolbarth a’r de-orllewin. Os bydd y sefyllfa'n newid ac achosion yn cael eu cadarnhau ymhellach i'r gogledd, yn nes at arfordir Lloegr, yna byddai'r risg i'r DU yn cynyddu yn unol â hynny.
Mae dwy ffordd allweddol y gallai BTV8 gyrraedd y DU: trwy wybed wedi’u heintio neu drwy fewnforio da byw wedi’u heintio. Ystyriodd asesiad risg ansoddol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, ymlediad tebygol BTV8 i'r DU. O gofio'r rheolaethau symud a mewnforio cryf, roedd y risg y byddai anifeiliaid byw wedi’u heintio yn cyflwyno'r clefyd i'r DU yn cael ei ystyried fel bod yn isel. Y farn yw mai gwybed wedi’u heintio fyddai’r llwybr mwyaf tebygol ac ystyriwyd bod y risg o ymlediad i'r DU yn 33 i 60 y cant ym mis Gorffennaf ac yn 60 i 80 y cant ym mis Medi.
Mae Ffrainc wedi cymhwyso'r cyfyngiadau sy'n ofynnol gan reolau’r UE. Mae anifeiliaid mewn parth cyfyngu wedi'u gwahardd rhag gadael, oni bai bod tystysgrif iechyd milfeddygol yn bodoli sy'n cadarnhau eu bod wedi’u brechu yn erbyn BTV neu fod ganddynt imiwnedd naturiol. Mae anifeiliaid a fewnforir i'r DU o barth cyfyngu yn cael eu cyfyngu yn y daliad pen y daith tan fod profion ar ôl mewnforio am arwyddion o glefyd wedi eu cynnal. Mae APHA hefyd yn cynnal profion ar ôl mewnforio yn seiliedig ar risg ar anifeiliaid a fewnforir o ardaloedd sy’n rhydd o’r clefyd yn Ffrainc.
Mae’r Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant da byw a’r proffesiwn milfeddygol er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei hysbysu'n ddibynadwy. Mae'r sefyllfa yn Ffrainc yn cael ei monitro'n agos ac mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r risgiau a'r mesurau lliniaru pe byddai BTV8 yn cyrraedd y DU. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi lansio ymgyrch ar gyfer y diwydiant—gweithredu ar y cyd yn erbyn y tafod glas, neu JAB—i hysbysu a chefnogi'r diwydiant da byw drwy godi ymwybyddiaeth o'r clefyd a'r camau y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid. Mae trafodaethau â gweithgynhyrchwyr brechlynnau yn nodi eu bod yn bwriadu sicrhau bod cyflenwadau o frechlyn BTV8 ar gael dros yr haf.
Cyn unrhyw achos neu ddigwyddiad, bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr holl asiantaethau a’r partneriaid perthnasol yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol ynghylch y risg. Ein negeseuon allweddol yw: bod gweithdrefnau gwyliadwraeth clefydau cadarn wedi’u sefydlu; dylai pobl sy’n cadw da byw ystyried, ynghyd â'u milfeddyg, y modd gorau o ddiogelu eu hanifeiliaid, gan gynnwys a yw brechu yn ddewis a fyddai'n llesol i'w busnes; dylai ffermwyr sy'n mewnforio neu’n symud rhywogaeth a allai fod yn agored i glefydau ystyried yn ofalus y risgiau a statws iechyd anifeiliaid wrth ddod o hyd i stoc, yn enwedig o dir mawr Ewrop; mae ffermwyr yn cael eu hannog yn gryf i fod yn wyliadwrus, i fonitro eu stoc yn ofalus ac i roi gwybod am unrhyw arwyddion o glefyd.
Mae'r risg o ymlediad y tafod glas yn anodd ei ragweld gan ei fod yn ddibynnol iawn ar lefel y clefyd ar y cyfandir, pa mor agos ydyw i’r DU a'r tywydd. Rwyf felly yn hyderus bod gennym y strwythurau ar waith a fydd yn ein galluogi i gymryd camau cyflym a phendant mewn achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid a rhanddeiliaid gweithredol i fonitro'r sefyllfa bresennol a lleihau cymaint â phosib ar y risg hwn.