– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Felly, symudwn yn syth at eitem 8, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar fygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid, y tafod glas a gwaith cynllunio wrth gefn, a diolchaf iddi am ei hamynedd wrth aros i gael ei galw.
Diolch, Gadeirydd.
Mae achosion o glefydau anifeiliaid yn ddinistriol i bawb dan sylw, a gallant gael canlyniadau eang a chostus ar gyfer anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, yr economi a'r amgylchedd. Mae sicrhau sefyllfa o barodrwydd ar gyfer ymlediad clefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, felly, yn flaenoriaeth. Mae’n rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am amheuaeth o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, megis clwy'r traed a'r genau neu’r tafod glas, o dan delerau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, er mwyn gallu ymchwilio i'r mater. Cafwyd 137 o adroddiadau o'r fath rhwng mis Ebrill 2015 a 20 Mehefin eleni.
Os bydd achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yn digwydd, nid yw’r costau sylweddol i'r Llywodraeth wedi eu cyllidebu ac maent yn cael eu hystyried fel rhwymedigaeth wrth gefn. Mae’r cyfrifoldeb polisi dros iechyd a lles anifeiliaid wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru er 2005; fodd bynnag, dim ond yn 2011 y cafodd y cyllidebau cysylltiedig eu datganoli. Byddai’r potensial ar gyfer costau trwm, heb eu cyllidebu, ar gyfer ymdrin ag achos o’r clefyd yn rhoi pwysau annisgwyl ar raglenni a gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Y mae, felly, yn hanfodol bod gweithgareddau gwyliadwriaeth a gwaith cynllunio wrth gefn yn cael eu gwneud gyda'r nod o atal, canfod, rheoli a dileu clefydau yn gyflym er mwyn lleihau'r effaith ar y diwydiant da byw, y gymuned wledig a'r economi ehangach.
Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn darparu'r systemau a'r strwythurau angenrheidiol i reoli a dileu achosion o glefydau anifeiliaid. Roedd Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau wrth gefn gael eu llunio ar gyfer clwy'r traed a'r genau, clefyd Newcastle a ffliw adar, y dylid eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd. Mae cynlluniau wrth gefn cadarn wedi bod ar waith gan Lywodraeth Cymru er 2003, ac maent yn cael eu profi'n rheolaidd mewn ymarferion a digwyddiadau clefydau. Mae 'Cynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Egsotig Anifeiliaid' yn nodi'r gweithdrefnau, y prosesau a’r strwythurau a fyddai'n cael eu defnyddio mewn achos o glefyd. Adolygir y cynllun yn flynyddol a chaiff ei ailgyhoeddi yn ôl yr angen. Mae wedi ei adolygu'n ddiweddar a chafodd ei ailgyhoeddi fis diwethaf. Mae adolygiadau o'r fath yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o ymarferion yn y DU ac yn lleol, yn ogystal â digwyddiadau amser-real. Defnyddiwyd cynlluniau wrth gefn ddiwethaf ar gyfer achosion o ffliw adar yn Lloegr a'r Alban yng nghanol 2015 ac yn gynnar yn 2016. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cynnal cynlluniau wrth gefn ac, yn ogystal, roedd yr ‘United Kingdom Contingency Plan for Exotic Notifiable Diseases of Animals’ yn darparu trosolwg strategol o'r strwythurau a'r systemau angenrheidiol i ymdrin ag achosion o glefyd yn y DU, gan ddangos sut y byddai'r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd mewn achosion o glefyd.
Mae canfod clefyd yn gynnar yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd. Trwy waith cynllunio hirdymor a thrwy fabwysiadu dull cydgysylltiedig o ddatblygu ein cynlluniau wrth gefn, gallwn helpu i greu'r Gymru iach, gydnerth a llewyrchus yr ydym yn ceisio ei chyflawni gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhelir gwaith gwyliadwriaeth ar sail Cymru a Lloegr gan APHA, ynghyd â chynghorwyr milfeddygol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn sganio'r sefyllfa fyd-eang o ran clefydau anifeiliaid i nodi unrhyw risgiau i'r DU. Mae gan Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU ddeddfwriaeth a strategaethau rheoli clefydau penodol ar gyfer ymdrin â chlefydau megis y tafod glas, y gynddaredd, Clwy'r Traed a'r Genau, clwy clasurol y moch a chlefydau ceffylau.
Mae’r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy a all effeithio ar rywogaethau anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys defaid, gwartheg, ceirw, geifr a chamelidau. Mae 26 math o feirws y tafod glas ac nid oes ganddo unrhyw oblygiadau ar gyfer iechyd pobl ac nid yw'n effeithio ar gig na chynhyrchion anifeiliaid eraill. Caiff feirws y Tafod Glas ei ledaenu’n bennaf gan wybed sy’n oedolion ac sydd wedi eu heintio yn brathu anifail sy’n agored i’r clefyd. Cyrhaeddodd y straen BTV8 y DU am y tro cyntaf yn ystod 2007 o dir mawr Ewrop, ac ni chafodd y DU ei datgan yn rhydd o’r clefyd tan 2011.
Mae BTV8 yn cylchredeg yn Ffrainc ar hyn o bryd gyda dros 288 o achosion wedi’u hadrodd erbyn 1 Gorffennaf. Mae Ffrainc yn parhau i gadarnhau achosion, a nodir yn bennaf o ganlyniad i waith gwyliadwriaeth. Yr agwedd allweddol ar y bygythiad i'r DU yw lleoliad yr achosion, sydd ar hyn o bryd yn rhanbarthau'r canolbarth a’r de-orllewin. Os bydd y sefyllfa'n newid ac achosion yn cael eu cadarnhau ymhellach i'r gogledd, yn nes at arfordir Lloegr, yna byddai'r risg i'r DU yn cynyddu yn unol â hynny.
Mae dwy ffordd allweddol y gallai BTV8 gyrraedd y DU: trwy wybed wedi’u heintio neu drwy fewnforio da byw wedi’u heintio. Ystyriodd asesiad risg ansoddol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, ymlediad tebygol BTV8 i'r DU. O gofio'r rheolaethau symud a mewnforio cryf, roedd y risg y byddai anifeiliaid byw wedi’u heintio yn cyflwyno'r clefyd i'r DU yn cael ei ystyried fel bod yn isel. Y farn yw mai gwybed wedi’u heintio fyddai’r llwybr mwyaf tebygol ac ystyriwyd bod y risg o ymlediad i'r DU yn 33 i 60 y cant ym mis Gorffennaf ac yn 60 i 80 y cant ym mis Medi.
Mae Ffrainc wedi cymhwyso'r cyfyngiadau sy'n ofynnol gan reolau’r UE. Mae anifeiliaid mewn parth cyfyngu wedi'u gwahardd rhag gadael, oni bai bod tystysgrif iechyd milfeddygol yn bodoli sy'n cadarnhau eu bod wedi’u brechu yn erbyn BTV neu fod ganddynt imiwnedd naturiol. Mae anifeiliaid a fewnforir i'r DU o barth cyfyngu yn cael eu cyfyngu yn y daliad pen y daith tan fod profion ar ôl mewnforio am arwyddion o glefyd wedi eu cynnal. Mae APHA hefyd yn cynnal profion ar ôl mewnforio yn seiliedig ar risg ar anifeiliaid a fewnforir o ardaloedd sy’n rhydd o’r clefyd yn Ffrainc.
Mae’r Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant da byw a’r proffesiwn milfeddygol er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei hysbysu'n ddibynadwy. Mae'r sefyllfa yn Ffrainc yn cael ei monitro'n agos ac mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r risgiau a'r mesurau lliniaru pe byddai BTV8 yn cyrraedd y DU. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi lansio ymgyrch ar gyfer y diwydiant—gweithredu ar y cyd yn erbyn y tafod glas, neu JAB—i hysbysu a chefnogi'r diwydiant da byw drwy godi ymwybyddiaeth o'r clefyd a'r camau y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid. Mae trafodaethau â gweithgynhyrchwyr brechlynnau yn nodi eu bod yn bwriadu sicrhau bod cyflenwadau o frechlyn BTV8 ar gael dros yr haf.
Cyn unrhyw achos neu ddigwyddiad, bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr holl asiantaethau a’r partneriaid perthnasol yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol ynghylch y risg. Ein negeseuon allweddol yw: bod gweithdrefnau gwyliadwraeth clefydau cadarn wedi’u sefydlu; dylai pobl sy’n cadw da byw ystyried, ynghyd â'u milfeddyg, y modd gorau o ddiogelu eu hanifeiliaid, gan gynnwys a yw brechu yn ddewis a fyddai'n llesol i'w busnes; dylai ffermwyr sy'n mewnforio neu’n symud rhywogaeth a allai fod yn agored i glefydau ystyried yn ofalus y risgiau a statws iechyd anifeiliaid wrth ddod o hyd i stoc, yn enwedig o dir mawr Ewrop; mae ffermwyr yn cael eu hannog yn gryf i fod yn wyliadwrus, i fonitro eu stoc yn ofalus ac i roi gwybod am unrhyw arwyddion o glefyd.
Mae'r risg o ymlediad y tafod glas yn anodd ei ragweld gan ei fod yn ddibynnol iawn ar lefel y clefyd ar y cyfandir, pa mor agos ydyw i’r DU a'r tywydd. Rwyf felly yn hyderus bod gennym y strwythurau ar waith a fydd yn ein galluogi i gymryd camau cyflym a phendant mewn achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid a rhanddeiliaid gweithredol i fonitro'r sefyllfa bresennol a lleihau cymaint â phosib ar y risg hwn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw. Mae’n briodol, mae’n siŵr, ei bod hi’n gosod allan cyn yr haf rai o’r camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i ymwneud â’r clefydau egsotig yma. Maen nhw’n cael eu galw’n egsotig, ond nid ydynt mor egsotig bellach, wrth gwrs. Gyda newid hinsawdd, rydym eisoes wedi gweld nifer o enghreifftiau o dafod glas yng Nghymru, a rhai o’r clefydau eraill hefyd, naill ai’n cael eu mewnforio neu’n cael eu lledaenu gan wybed.
Felly, ymhellach i’r datganiad, a yw’r Gweinidog yn gallu ateb pa ystyriaeth sydd wedi cael ei rhoi i ymgyrch frechu yn erbyn y tafod glas yn benodol, gan fod newid hinsawdd yn gyrru’r clefyd yma lawer yn nes drwy’r haf i Gymru? Rwy’n deall bod yna frechiad effeithiol iawn i gael a, fel y dywedwyd yn y datganiad, fod yna ystyriaeth gan undebau’r ffermwyr i ledaenu gwybodaeth am y brechiad hwn, ond a oes angen mynd gam ymhellach i geisio annog mwy o frechu gan ffermwyr? A yw’r Llywodraeth wedi modelu o gwbl cost brechu yn erbyn cost y clefyd yma yn digwydd yng Nghymru—yn erbyn, wrth gwrs, yr effaith wedyn ar y diwydiant drwy bris cynnyrch yn cwympo os oes sôn am glefyd o’r fath, achos dyna beth sy’n dueddol o ddigwydd os oes clefyd yn torri mas?
Yr ail gwestiwn sydd yn codi yn sgil y datganiad yw’r un ynglŷn â gallu a chapasiti y diwydiant milfeddygol i ddelio â hwn. Fe soniodd y Gweinidog yn y datganiad am yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Wrth gwrs, ers y toriadau yn y labordai yn yr asiantaeth honno, mae yna ‘stopgap measures’, byddwn i’n dadlau, wedi cael eu dodi yn eu lle gyda rhai cwmnïau a milfeddygon preifat yn ceisio llanw’r bwlch, gyda’r Gymdeithas Filfeddygol Brydeinig hefyd yn rhybuddio bod modd colli’r rhybuddion oherwydd colli’r labordai. Felly, beth yw’r trafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda’r proffesiwn milfeddygol ynglŷn â sicrhau bod yna ddigon o rybudd a digon o lefydd i brofi ar gyfer clefyd y tafod glas a’r clefydau eraill sy’n cael eu crybwyll yn y datganiad?
Y pwynt olaf sy’n codi yn sgil hynny, wrth gwrs, yw: pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael yn awr gyda’r proffesiwn ehangach ynglŷn â’r ffaith bod tua hanner o’r milfeddygon yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn y Deyrnas Gyfunol wedi’u hyfforddi yn yr Undeb Ewropeaidd—mewn llefydd eraill? Wrth gwrs, fe wnaf i sôn fan hyn, a byddech yn disgwyl imi sôn am hyn, am y ffaith nad oes gennym ni ysgol filfeddygol yng Nghymru. Roedd yna gynlluniau cyffrous gan Brifysgol Aberystwyth i geisio llanw peth o’r bwlch, os nad y bwlch yn llawn, yn syth, ond tra ein bod ni’n aros am gefnogaeth i wireddu’r freuddwyd yna, rŷm ni’n ddibynnol ar filfeddygon sydd wedi’u hyfforddi yn y gwledydd Ewropeaidd eraill ac sydd yn rhoi perfformiad a chyfraniad gwerth chweil, felly, i ni yma yng Nghymru. Roeddech chi, Ysgrifennydd, fel minnau, yng nghinio’r British Veterinary Association yn ddiweddar iawn, ac mae’n siŵr bod hwn wedi codi gyda nhw—pa mor bwysig yw’r milfeddygon yma a pha mor bwysig yw hi, felly, ein bod ni, fel yr ydym wedi gwneud sawl gwaith heddiw, yn cadarnhau nid yn unig bod croeso i filfeddygon yr Undeb Ewropeaidd, ond ein bod ni’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth gadw ein hanifeiliaid ni yn iach ac wrth ein helpu i fynd i’r afael â chlefydau fel y clefydau egsotig yma.
Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. O ran brechu, soniais fod brechlyn ar gael a dyma'r unig ddull effeithiol o amddiffyn anifeiliaid a allai fod yn agored i’r tafod glas. Yr amser gorau i frechu yw yn gynnar yn y flwyddyn, cyn i'r tywydd cynnes ddod, a gwn ein bod yn dal, o bosibl, i aros amdano. Bydd hynny wedyn yn darparu amddiffyniad. Felly, rwy’n meddwl bod y math hwnnw o waith wedi ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn, ond, yn amlwg, wrth i ni fynd drwy'r haf, mae’r brechiad hwnnw yn dal i fod yn berthnasol pe byddai ffermwyr eisiau gwneud hynny.
Soniais y byddai brechiadau yn cael eu rhoi ar gael gan wneuthurwyr, ac, mewn gwirionedd, mae dau wneuthurwr brechlyn wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod eu brechiadau ar gael o'r mis hwn ymlaen, felly mae honno’n drafodaeth y mae'r prif swyddog milfeddygol a’i chynghorwyr yn ei chael.
O ran capasiti, rwy’n credu gan fod gennym gymaint mwy o filfeddygon yn mynd allan i ffermydd i gynnal profion ar gyfer TB, er enghraifft, erbyn hyn, rwy’n credu pan fo’r milfeddygon hyn yn mynd ar y fferm, maent yn gwneud gwaith ychwanegol, os mynnwch chi, oherwydd maent yn ymgysylltu â ffermwyr ac yn sôn am fioddiogelwch a’r hyn y gall ffermwyr ei wneud i amddiffyn yn erbyn clefydau. Felly, rwy'n hapus iawn â'r capasiti sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rwy’n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â milfeddygon sydd gennym o'r UE, ac, fel y dywedwch, rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr iawn ac yn sicr mae croeso mawr iddynt yng Nghymru.
Roeddwn i’n falch iawn o wneud y cyhoeddiad ynghylch y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'r cyfleusterau sy'n cael eu rhoi ar waith yno—nid ysgol filfeddygol gyflawn, ond rwy’n meddwl ei fod yn gam cyntaf pwysig y gallwn adeiladu arno.
A gaf i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad pwysig y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r un pwysigrwydd i fynd i'r afael â chlefyd arall, sef, wrth gwrs, TB buchol, a chyflwyno datganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r clefyd ofnadwy hwn cyn yr hydref, o gofio ei fod yn cael effaith negyddol sylweddol ar ein diwydiant ffermio?
Nawr, mae bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid yn faterion hynod o anodd y mae angen eu trin yn effeithiol ac yn effeithlon, ac mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i ymateb i unrhyw achosion, yn enwedig o ran y bygythiad o feirws y tafod glas, y mae’r rhan fwyaf o'i datganiad yn cyfeirio ato heddiw. Rwy’n sylweddoli bod y gwaith cynllunio wrth gefn wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae'n destun pryder i weld yr adroddwyd am bron i 300 o achosion o feirws y tafod glas yn Ffrainc ers mis Gorffennaf, a bod y tebygolrwydd y bydd y feirws yn lledaenu i'r DU yn cynyddu. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau wrth gefn yn cael eu cydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU er mwyn sicrhau nad yw gwahanol bolisïau yn llesteirio ei gilydd neu hyd yn oed yn gwaethygu’r problemau. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU ac, mewn gwirionedd, Llywodraethau eraill ynghylch bygythiad feirws y tafod glas i sicrhau bod bygythiadau clefydau anifeiliaid yn cael eu trin mewn modd cydgysylltiedig ledled Prydain gyfan.
Rwy’n sylweddoli nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol dros fewnforion i Gymru, a bod cyfeiriad polisi ar gyfer rheoli ffiniau yn cael ei benderfynu ar lefel Llywodraeth y DU, er hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y gwaith o fonitro mewnforion anifeiliaid a chynnyrch, ac yn fwy penodol o ran y broses o gynnal profion ar ôl mewnforio, y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei datganiad y prynhawn yma. Hefyd, er fy mod i’n falch bod trafodaethau â'r diwydiant cynhyrchu brechlynnau wedi eu cynnal, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am ryddhau brechlyn posibl ar gyfer feirws y tafod glas. Soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ddadansoddiad cost posibl brechu, ond efallai y gallai hi roi syniad i ni o gostau posibl brechu.
Wrth gwrs, pe byddai unrhyw achos o glefyd, gallwn ddisgwyl gweld y cyfyngiadau ar waith ac mae hynny ynddo'i hun yn codi rhai cwestiynau difrifol. Rwyf i’n sylweddoli bod cynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn rhan o strategaeth ehangach ynghylch lles anifeiliaid, ac felly rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym yn ei hymateb sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu lles anifeiliaid yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau symud yn ystod achosion brys. Mae hefyd yn bwysig bod deialog gyson ag awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredol lleol, megis heddluoedd. Mae'r partneriaid lleol hyn yn y rheng flaen wrth ymdrin â bygythiadau clefydau anifeiliaid ac ymateb y cyhoedd iddynt, ac mae'n bwysig bod cyfathrebu yn digwydd yn effeithiol i'r rhai ar lefel rheoli gweithredol. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'r heddlu i sicrhau eu bod yn derbyn diweddariadau amser real cyson ynglŷn ag unrhyw fygythiadau clefydau anifeiliaid. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa fath o waith maes lleol sy’n cael ei wneud ar lefel leol, sut y caiff y wybodaeth honno ei chasglu a'i monitro, a sut mae’r gwaith hwnnw yn cyfrannu at strategaethau ar gyfer bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid ar lefel y DU.
Rwy’n croesawu’r ffaith fod y cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn cael ei adolygu'n flynyddol a'i ailgyhoeddi yn ôl yr angen, gan ei bod yn bwysig bod cynlluniau o'r math hwn yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn bod mor effeithiol â phosibl. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n hollbwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a bod cynlluniau wrth gefn cadarn wedi eu sefydlu ar gyfer achosion o glefyd egsotig anifeiliaid. Nid wyf yn amau ymrwymiad a didwylledd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ond mae bob amser mwy y gellir ei wneud, ac felly rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolchaf i Paul Davies am ei gyfres o gwestiynau. Dim ond i gyfeirio at eich pwynt cyntaf ynghylch y rhaglen dileu TB, rwyf wedi ymrwymo i ddod â datganiad gerbron yn yr hydref ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn parhau i fod â dull gwyddonol ac, yn ystod yr haf, bydd cryn dipyn o waith yn mynd ymlaen yn gysylltiedig â'n rhaglen.
Defnyddiais enghraifft y tafod glas i ddangos bod gennym gynlluniau cadarn iawn ar waith ar gyfer ymdrin â’r clefydau hyn. Soniasoch am y cynnydd yn nifer yr achosion yn Ffrainc, a dyna pam yr ydym yn monitro hynny yn ofalus iawn. Mae'r prif swyddog milfeddygol mewn cysylltiad cyson â’r swyddogion milfeddygol eraill yn y DU; mae hi'n cael adroddiad bob mis ynglŷn â’r clefydau hyn. Yn amlwg, os oes ymlediad o wybed wedi’u heintio o Ffrainc, bydd y ffermydd hynny sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o fod ar hyd arfordir y de a de-ddwyrain Lloegr ar ddechrau achos o glefyd, ond ein neges yw na ddylai ffermwyr mewn rhannau eraill o'r wlad fod yn hunanfodlon, dylent barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o afiechyd, ac ystyried yn ofalus y risg o gael anifeiliaid o'r tu allan i'r DU.
Gofynasoch am ddadansoddiad cost, fel y gwnaeth Simon Thomas, mae'n ddrwg gennyf, a wnes i ddim ateb hynny. Yr hyn y gwnes i sôn amdano oedd y dylai brechu gael ei wneud ar ddechrau'r flwyddyn cyn bod y tywydd yn gynnes iawn, ac nid wyf yn ymwybodol o ba un a wnaethpwyd y dadansoddiad cost ar ddechrau'r flwyddyn, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y ddau Aelod i egluro'r pwyntiau hynny.
O ran cynlluniau wrth gefn, mae'n hynod bwysig bod gennym y cynlluniau cadarn hynny ar waith, ac rwyf wedi cael fy arwain trwy’r trefniadau wrth gefn, os mynnwch chi, ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddai gennym achosion o glefyd gyda'r prif swyddog milfeddygol a’i chynghorwyr. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cynnwys rhanddeiliaid megis awdurdodau lleol a'r heddlu, ac ati, a, wyddoch chi, efallai Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn dibynnu ar ba fath o achosion sydd gennym, oherwydd yn amlwg gallant ddarparu cymorth i ni.
Rwy’n dawel iawn fy meddwl bod yr holl fforymau wedi’u sefydlu—mae’r cydnerthedd, y cynlluniau wrth gefn sifil yno, wedi’u sefydlu, pe byddem yn cael achos o'r fath. Cefais fy nghalonogi’n fawr pan edrychais ar y rhestr o glefydau hysbysadwy pan ddes i i mewn i’r swydd, bod sawl blwyddyn ers i ni gael rhai o'r clefydau penodol yng Nghymru. Drwy’r cynnydd mewn cymorth â bioddiogelwch gyda'n ffermwyr, rydym yn sicr yn gobeithio sicrhau y bydd hynny’n parhau i fod yn wir.
Rwy'n credu bod yr egwyddor o reoli afiechydon heintus—ac mae hyn yn berthnasol i bob clefyd a dyma'r neges yr ydym yn ei roi i'n pobl sy’n cadw da byw a ffermwyr—yw eich bod yn cadw haint allan, yn ei ganfod yn gyflym, yn ei atal rhag lledaenu, ac, os oes gennych glefyd, eich bod yn cael gwared arno, a dyna yn sicr y neges y byddwn ni’n bwrw ymlaen â hi ar bob un o'r clefydau hyn a’n cynlluniau wrth gefn.
Iawn. Diolch.