<p>Prinder Llefydd mewn Ysgolion</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:52, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Fy lle i yw llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am y tro cyntaf ar ei hymddangosiad cyntaf yn ei swydd newydd, ac rwy’n gwneud hynny’n gynnes a diffuant iawn. Rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiannus iawn yn ei swydd. Ond mae arnaf ofn na allaf rannu’r hunanfodlonrwydd sy’n llenwi’r ateb rwyf newydd wrando arno oherwydd bod gwahaniaeth sylweddol rhwng gwahanol rannau o Gymru lle y ceir prinder sylweddol mewn rhai mannau a gormodedd mewn mannau eraill. Er enghraifft, yn Ysgol Uwchradd Caerdydd eleni, cafwyd 635 o geisiadau am 240 o leoedd, ond yn ein rhanbarth ni ym Mhowys, mae 25 y cant o leoedd uwchradd yn wag. Ar draws y ffin yn Swydd Amwythig, mae gormod o geisiadau am leoedd i un rhan o dair o’r ysgolion. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet rannu ei syniadau ynglŷn â sut y gallem ailgydbwyso addysg yng Nghymru ond heb amddifadu ysgolion gwledig o’u cyllid presennol.