Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch i’r Aelod am ei eiriau caredig. Mae’n sicr yn brofiad gwahanol iawn i mi fod yn ateb cwestiynau yn hytrach na’u gofyn. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fod peth pwysau ar rai ysgolion mewn rhai rhannau o Gymru, ond nid oes prinder cyffredinol o leoedd mewn ysgolion yng Nghymru? Bydd yr Aelod yn ymwybodol o fy nghytundeb gyda’r Prif Weinidog i adolygu’r polisi ar leoedd gwag, yn enwedig gan ei fod yn effeithio ar y Gymru wledig, a byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr cyn bo hir gyda chynigion ar sut y gallwn sicrhau nad effeithir yn andwyol ar ysgolion yng nghefn gwlad Cymru gan orbwyslais ar leoedd gwag.