<p>Dosbarthiadau Babanod (Islwyn)</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:00, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf hefyd yn awyddus i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Fy nghwestiwn cyntaf iddi yw—. Yn ôl datganiad i’r wasg gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, cafodd dros 7,500 o ddisgyblion yng Nghymru eu haddysgu mewn dosbarthiadau o fwy na 30 o ddisgyblion y llynedd. Ynddo hefyd, roeddech chi’n dyfynnu—eich dyfyniad chi— ein prif flaenoriaeth addysg yw torri maint dosbarthiadau.

Fodd bynnag, mae cynghorydd i Lywodraeth Cymru, yr Athro David Reynolds, wedi dweud,

Os edrychwch ar y dystiolaeth academaidd, nid ydych yn ennill llawer o leihau maint dosbarthiadau.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw torri maint dosbarthiadau yn Islwyn ac mewn rhannau eraill o Gymru yn dal i fod yn brif flaenoriaeth iddi mewn addysg yng Nghymru?