Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am ei eiriau caredig? A gaf fi ddweud yn glir nad yw David Reynolds yn cynghori fy adran? A gaf fi hefyd ddweud bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod torri maint dosbarthiadau yn arbennig o bwysig i’n disgyblion iau, mae’n arbennig o bwysig i’n disgyblion mwyaf difreintiedig—rhai o’r cymunedau y mae’r Aelod yn dweud ei fod yn eu cynrychioli—ac mae’n arbennig o bwysig i’r plant ifanc hynny nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt? Dyna ble y gwyddom fod torri maint dosbarthiadau yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Os yw’r Aelod yn treulio amser yn siarad gyda rhieni ac athrawon, bydd yn gwybod ei fod yn flaenoriaeth iddynt. Dyna pam mai dyna oedd fy mhrif flaenoriaeth ym maniffesto fy mhlaid a dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn cyflawni arno.