Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Ar fy ngwir, Mike, rwyf wedi ymdrechu’n galed iawn i wneud yn siŵr fy mod wedi paratoi’n dda ar gyfer y cwestiynau hyn, ond nid oes gennyf y manylion hynny wrth law. Os yw’n dderbyniol i’r Aelod, byddaf yn ysgrifennu ato gydag union fanylion yr ysgolion sy’n cydymffurfio neu nad ydynt yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r cynlluniau sydd gennym. Rwy’n siŵr fod llawer o’r buddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cyd-fynd â sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch i’n plant i gyd.