Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Mae mynediad at addysg gynnar o safon uchel yn ffordd effeithiol o gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant difreintiedig a phlant eraill, a sicrhau datblygiad ieithyddol plant ifanc. Ar hyn o bryd, mae plant sy’n byw mewn tlodi parhaus yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio yn is na’r cyfartaledd ar gyfer eu datblygiad iaith pan yn bump oed o’u cymharu â’u cyfoedion mwy cefnog. Yn ystod yr etholiad, mi gynigiodd Plaid Cymru bolisïau radical a fyddai’n helpu cau’r bwlch cyrhaeddiad, gan gynnwys cynnig lle mewn ysgol i bob plentyn o dair oed ymlaen. Mae ymchwil yn dangos bod cychwyn ysgol yn gynt yn mynd i’r afael â’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad gwael ac yn help i godi teuluoedd allan o dlodi. A ydych chi’n cytuno bod angen gweithio tuag at sicrhau mynediad cyfartal i addysg gynnar i bob plentyn tair oed? Os felly, er mwyn cyflawni hyn, a fyddech chi’n fodlon cychwyn ar gynllunio ar gyfer derbyn plant yn dair oed mewn ysgolion?