Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Os yw’r Aelod yn fodlon ysgrifennu ataf gyda’r enghraifft y mae hi wedi’i thrafod yn y Siambr yma, byddaf yn hapus iawn i ymateb i’r pwyntiau penodol rydych chi wedi’u codi gyda ni. Ond, a gaf ddweud yn gyffredinol, rydym ni, fel Llywodraeth—? Mae’r Aelod wedi cael cyfle i ddarllen y cynllun presennol, y cynllun sydd wedi cael ei newid yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r cynllun roedd Mark Drakeford wedi’i lansio cyn yr etholiad fel y Gweinidog iechyd. Mae angen i ni sicrhau bod pob un person sydd angen cefnogaeth ac angen cwricwlwm ‘differential’, beth bynnag yw e, yn cael hynny, ym mha bynnag ysgol neu ‘setting’ maen nhw’n derbyn eu haddysg. Mi fyddwn yn sicrhau bod hynny yn digwydd, naill ai drwy’r Mesur rydym wedi’i drafod yn barod yn y sesiwn yma, neu drwy sicrhau bod y gefnogaeth ar gael y tu fas i hynny. Ond rwy’n hapus iawn i ymateb yn uniongyrchol i’r Aelod ar yr enghraifft y mae hi wedi’i chodi gyda ni.