Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Weinidog, rwy’n falch iawn o glywed yr ateb rydych newydd ei roi i Bethan Jenkins mewn perthynas â’r strategaeth sydd wedi bod ar y gweill. Fodd bynnag, strategaeth yw strategaeth ac nid oes unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau a chyrff cyhoeddus a dyna un o ganlyniadau’r Ddeddf awtistiaeth. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o rieni sydd wedi cael trafferth cael gwasanaethau ar gyfer eu plant mewn gwirionedd, weithiau oherwydd nad yw awdurdodau lleol yn gwrando ar arbenigwyr megis therapyddion a chlinigwyr, ac maent yn gweld ymddygiad mewn ysgol lle nad yw plentyn gyda lefel uchel o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig mewn gwirionedd yn arddangos ymddygiad o’r fath mewn amgylchedd ysgol arferol. A wnewch chi edrych ar y canllawiau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwrando ar glinigwyr a therapyddion, ac yn cymryd cyngor ganddynt, fel y gellir rhoi cymorth y mae cymaint o’i angen arnynt i rieni?