<p>Addysg ar gyfer Disgyblion ag Awtistiaeth</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:41, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae’r math o raglen ddysgu sy’n cael ei darparu ar gyfer pob disgybl unigol yn fater iddynt hwy a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â hwy. Nid wyf yn siŵr y byddai’n briodol i mi, fel Gweinidog, farnu ar y mathau hynny o benderfyniadau neu i wneud sylwadau ar hynny heb ddeall anghenion unigol y disgybl. Ond a gaf fi ddweud hyn wrthych? Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod pobl yn gallu manteisio ar y cwricwlwm gwahaniaethol sydd ei angen arnynt, eu bod yn cael cymorth i sicrhau eu bod yn cael y gorau o addysg o’r fath, y dysgu hwnnw a’r cwricwlwm hwnnw a’n bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, yn rhoi’r strwythurau a’r fframweithiau cenedlaethol ar waith fel na fyddwn yn gweld y methiannau y mae Aelodau unigol yn eu disgrifio yma o bryd i’w gilydd.