<p>Addysg ar gyfer Disgyblion ag Awtistiaeth</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:40, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae ymchwil yn awgrymu’n gryf y gall gweithgarwch corfforol fel chwaraeon effeithio’n gadarnhaol ar allu plentyn awtistig i gyfathrebu ac ymwneud ag eraill a gall leihau’r straen y mae eu problemau’n eu hachosi iddynt. Mae pob person ag anabledd yn unigryw ac mae ganddynt eu hanghenion addysgol penodol eu hunain. Lle mae gweithwyr proffesiynol o’r farn y byddai plentyn penodol yn elwa o weithgarwch corfforol penodol neu chwaraeon sydd ond ar gael yn ystod oriau ysgol, a wnaiff y Gweinidog gefnogi rhyddhau plentyn o’r fath o ysgol, fel y gall fanteisio ar therapïau amgen fel chwaraeon?