1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygu pêl-droed yng Nghymru? OAQ(5)0102(FM)
Mae'r perfformiad rhagorol gan ein tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 wedi cynnig cyfle gwych i ni i gynrychioli Cymru dramor. Gwn fod Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn bwriadu defnyddio’r llwyddiant hwnnw fel catalydd i dyfu’r gamp ymhellach ar draws y wlad.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn falch iawn o sut y gwnaeth tîm Cymru yn y pencampwriaethau Ewropeaidd, ac rwy’n siŵr nad fi yw'r unig un a dreuliodd nos Sul yn meddwl, 'Gallai fod wedi bod yn ni', yn enwedig pan enillodd gyn-chwaraewr Abertawe y gystadleuaeth dros Bortiwgal. Er mwyn parhau i ddatblygu pêl-droed, mae angen gwell caeau. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog sut y bwriedir cynyddu nifer y caeau 3G a 4G yng Nghymru, gan leihau nifer y gemau a gollir i dywydd garw drwy’r gaeaf.
Gwn fod Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu gwahanol gampau, fel Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a'r Gymdeithas Bêl-droed, i ddatblygu rhaglen fuddsoddi ar gyfer caeau 3G. Gwn hefyd eu bod yn datblygu glasbrint ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden yng Nghymru i gefnogi ein hymgyrch i hwyluso cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ac ymarfer corff, ac i wneud yn siŵr y bydd gennym ni gyfleusterau sy'n briodol ac yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Onid ydych chi’n credu bod gwrthdaro rhwng ceisio cynyddu nifer y caeau 4G, ac eto, dim ond milltir i lawr y ffordd, ceir cae pob tywydd sydd o dan glo? Ni all plant chwarae yno gan ei fod yn rhy ddrud. Hefyd yn y ddinas hon, yn ne'r ddinas hon, mewn ward â phroblemau mawr fel Sblot, mae canolfan hamdden STAR yn cael ei chau gan eich cyngor Llafur chi yma yn y ddinas. Felly, ceir neuadd y mae plant yn ei defnyddio, lle maen nhw’n dysgu chwarae pêl-droed. Onid ydych chi’n gweld y gwrthdaro rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud yma am gynyddu cyfleusterau, ac eto y gwirionedd ar lawr gwlad yw bod eich cynghorau Llafur yn eu torri?
Yr un fath yn Sir Gaerfyrddin.
Wel, rwy’n meddwl bod yr un peth yn wir—. Mae fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Lanelli, yn fy hysbysu bod Sir Gaerfyrddin yn yr un sefyllfa—sy’n cael ei rhedeg gan ei blaid ef, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cynghorau mewn sefyllfaoedd anodd yn ariannol, ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn gwneud cyfleusterau yn rhy ddrud i bobl yn y cymunedau hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, mewn gwirionedd, sef bod angen i ni wneud yn siŵr, lle mae cyfleusterau’n cael eu datblygu, nad ydynt yn mynd mor ddrud fel na all pobl eu defnyddio. Pan fo perygl o wneud hynny, byddem yn annog pawb dan sylw i feddwl eto er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl.
Brif Weinidog, hoffwn ymuno â chi i ddweud pa mor wych oedd newyddion yr wythnos diwethaf. Nid yn unig y gwnaeth ein tîm Cymru cystal ag y gwnaethant, ond llwyddasant i droi rhywun fel fi, y gallaf ddweud yn onest nad oedd pêl-droed o unrhyw ddiddordeb o gwbl i mi, yn gefnogwr brwd. Mae’n debyg y gallwn i hyd yn oed drafod y rheol camsefyll pe bawn i’n trio’n ddigon caled. Ond roeddwn i’n falch iawn ohonyn nhw, ac roeddwn i hefyd yn hynod falch o'n cefnogwyr a'r ffordd y gwnaeth ein cefnogwyr ymddwyn. Hefyd, gwnaeth ein pêl-droedwyr argraff dda fel pobl gyffredin, nobl â’u traed ar y ddaear, ac yn esiampl wirioneddol i'n pobl ifanc. Felly, rwy’n dod at wraidd fy nghwestiwn, sef: a fyddwch chi’n cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod sut y gallwn ni gynyddu’r oriau a’r munudau y mae pobl ifanc yn yr ysgol gynradd yn eu treulio yn gwneud chwaraeon? Mae wedi cael ei dorri’n gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dweud y gwir. Os ydym ni eisiau darganfod nid yn unig ein sêr pêl-droed ar gyfer y dyfodol, ond hefyd ein sêr chwaraeon ar gyfer y dyfodol, mae angen i ni ddechrau’n gynnar, eu cael nhw’n gynnar, eu gwneud nhw’n iach a’u cael nhw i arfer â’r holl agenda chwaraeon. Yn hytrach, mae’r amser hwnnw’n prinhau ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd, ac mae’n anodd iawn i blant cefn gwlad, yn enwedig y rhai heb fynediad at gludiant cyhoeddus, gymryd rhan ar ôl yr ysgol hefyd.
Dyma'r materion yr hoffem eu hystyried gyda chyrff llywodraethu chwaraeon. Mae'r Aelod yn anarferol o onest pan ddywed nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed tan nawr. [Torri ar draws.] Wel, mae croeso i gefnogwyr newydd bob amser, wrth gwrs. Mae'n anodd tanbwysleisio’r cyhoeddusrwydd y mae hyn wedi ei roi i’n cenedl. Roeddwn i ym Mharis ar noson y rownd gynderfynol. Roeddwn i yn Mametz y diwrnod canlynol. O’m cwmpas, y cwbl y gallwn ei glywed oedd pobl yn dweud 'Pays de Galles'. Mae’r math hwnnw o gyhoeddusrwydd yn anodd iawn i ni ei ailadrodd. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny, ac rydym ni’n gweithio gyda Croeso Cymru er mwyn i hynny ddigwydd.
Mae hi'n gwbl gywir i ddweud hefyd bod y tîm wedi bod yn esiampl dda cyn belled ag y mae pobl ifanc yn y cwestiwn. Byddant yn gweld ei bod yn bosibl bod yn hynod lwyddiannus ym myd pêl-droed—ac, yn wir, mewn unrhyw gamp broffesiynol arall—heb fod â baich emosiynol, os caf ei roi felly, fel yr ydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd a fu. Rydym ni’n ffodus yng Nghymru nad ydym ni wedi colli llawer o gaeau chwarae ysgolion, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Chwaraeon Cymru a’r cyrff llywodraethu nawr er mwyn darparu cymaint o gyfleusterau hygyrch o'r safon uchaf ag y galllwn ar draws Cymru.