<p>Gwella Seilwaith yn Ne-ddwyrain Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:11, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ateb i dagfeydd twneli Brynglas yr M4 yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac yn wir i’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy'n siŵr y bydd yr Athro Stuart Cole yn cysgu ychydig yn dawelach o wybod bod ei lwybr glas M4 yn rhan o'r gymysgedd erbyn hyn i gael ei ystyried gan yr ymchwiliad cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Byddwch yn ymwybodol bod gan Roadchef yng ngwasanaethau Magwyr bryderon am effaith y llwybr du ar eu busnesau, ac felly hefyd porthladd Casnewydd, a allai gael ei rannu'n ddwy gan o leiaf un o'r llwybrau sy'n cael eu hystyried gan yr ymchwiliad cyhoeddus. Sut y mae pryderon busnesau lleol pwysig fel y rhain yr wyf i wedi eu crybwyll wedi cael eu cymryd i ystyriaeth, a sut maen nhw’n cael eu cymryd i ystyriaeth gan yr ymchwiliad cyhoeddus?