Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, byddwn yn disgwyl i'r ymchwiliad roi ystyriaeth lawn i safbwyntiau pawb sy'n mynegi barn i'r ymchwiliad. Gwnaethom benderfyniad ymwybodol i wneud yn siŵr bod yr holl bosibiliadau yn cael eu harchwilio gan yr ymchwiliad fel y gallai'r cyhoedd weld yr holl dystiolaeth ac fel y byddai pobl yn deall ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl ddewisiadau yn cael eu harchwilio’n briodol. Mae’r Aelod yn gwybod fy mod i wedi sefyll yn y fan yma a dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran ei effaith ar gymaint o bobl, ond gadewch i ni weld beth fydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ei ddweud a gweld pa argymhellion a wneir yn dilyn hynny.